Bydd cigyddion o Hwlffordd, Cwmbrân, yr Wyddgrug a phentref Sandycroft yn Sir y Fflint yn mynd benben am deitl Cigydd y Flwyddyn Cymru ymhen llai nag wythnos.

Dydd Mawrth nesaf fe fydd y cigyddion canlynol yn wynebu ei gilydd ar gampws Coleg Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-rhos:

  • Mark Wolsey o Prendergast Butchers, Hwlffordd,
  • Cori Mears o Douglas Willis, Cwmbrân,
  • Adam Jones o Swans Farm Shop, Treuddyn, ger yr Wyddgrug,
  • Marinov Elenko o 2 Sisters Food Group, Sandycroft.

Y dasg gigyddol

Bydd gan y pedwar yn y ffeinal 55 munud i dorri coes a golwyth pen bras o borc yn gyhyrau unigol, ac awr arall i droi’r cig yn arddangosfa weledol gyffrous i ddathlu achlysur arbennig o ddewis y cigydd ei hun.

Bydd y beirniaid yn chwilio am sgiliau technegol, dyfeisgarwch, creadigrwydd a disgrifiad manwl o bob elfen a gaiff ei chreu, ynghyd â chyfarwyddiadau coginio.

Yn ogystal â’r clod o gael ei enwi’n gigydd gorau Cymru, bydd yr enillydd yn derbyn £100, yr ail yn cael £60 a’r trydydd yn ennill £40.

Dywedodd Arwyn Watkins OBE, llywydd Cymdeithas Goginio Cymru:

“ Dyma lwyfan delfrydol i gigyddion o bob oed, o bob rhan o Gymru, i arddangos eu sgiliau.

“Mae cael eich enwi’n grefftwr gorau Cymru yn eich dewis alwedigaeth yn anrhydedd enfawr a bydd hyn yn gyfle i wylio cigyddion eithriadol o fedrus yn dangos eu sgiliau a’u technegau arddangos cig.”