Mae’r ras i olynu Nicola Sturgeon fel arweinydd yr SNP a Phrif Weinidog yr Alban wedi poethi, ar ôl i gystadleuydd arall daflu ei het yn swyddogol i’r cylch.

Dyma gystadleuaeth arweinyddiaeth gyntaf y blaid ers bron i ugain mlynedd, ac mae’n debygol y bydd yna ddadl ar gyfeiriad a strategaeth yn y dyfodol.

Cyhoeddodd Nicola Sturgeon ei hymddiswyddiad ddydd Mercher (Chwefror 15), ar ôl wyth mlynedd wrth y llyw.

Wrth gyhoeddi ei hymddiswyddiad, dywedodd ei bod hi’n gwybod yn ei phen a’i chalon mai dyma’r adeg iawn i gamu o’r neilltu.

Bydd enwebiadau ar gyfer y swydd yn cau am hanner dydd ar ddydd Gwener (Chwefror 24), gyda’r arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, Mawrth 27.

Dyma gip ar yr hyn mae golwg360 yn ei wybod hyd yn hyn…


Humza Yousaf

Un o’r rhai cyntaf i gyhoeddi y bydd yn rhedeg am yr arweinyddiaeth yw Humza Yousaf, Ysgrifennydd Iechyd yr Alban.

Ar ôl gweithio fel cynorthwyydd seneddol i lawer o Aelodau blaenllaw o Senedd yr Alban, daeth yn aelod etholedig dros Glasgow Pollok yn 2016, ar ôl cynrychioli rhanbarth Glasgow yn flaenorol o 2011 i 2016.

Wrth ad-drefnu cabinet Nicola Sturgeon yn 2018, cafodd ei benodi i Gabinet yr Alban i fod yn Ysgrifennydd Cyfiawnder.

Fel Ysgrifennydd Cyfiawnder, cyflwynodd y Mesur Troseddau Casineb ac yn 2021, olynodd Jeane Freeman fel Ysgrifennydd Iechyd.

Ers hynny, mae wedi bod yn arwain rhaglen frechu COVID-19 Llywodraeth yr Alban.

Ond yn ystod ei gyfnod yn swydd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, cafodd ei hun ynghanol dadl ynghylch Bil Troseddau Casineb a Threfn Gyhoeddus (Yr Alban), oedd wedi wynebu adlach tros ei heffaith ar ryddid mynegiant.

Mae hefyd wedi cael ei feirniadu am ei waith yn rhedeg y Gwasanaeth Iechyd yn yr Alban, a brofodd y gaeaf anoddaf yn ei hanes yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae Nicola Sturgeon wedi wynebu galwadau cyson gan y gwrthbleidiau i’w ddiswyddo, gydag amseroedd aros wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed a meddygon yn rhybuddio nad yw ysbytai’r wlad yn ddiogel i gleifion.

Mewn fideo ar Twitter wrth gyhoeddi ei ymgeisyddiaeth, dywedodd ei fod “wedi meddwl yn galed am y peth” ac “wedi penderfynu rhoi fy hun ymlaen fel Prif Weinidog nesaf yr Alban”.

“Rwy’n ei wneud oherwydd mae’r swydd uchaf yn gofyn am rywun sy’n brofiadol ac mae Nicola Sturgeon wedi ymddiried ynof gyda rhai o’r swyddi mwyaf anodd yn y llywodraeth fel Gweinidog Trafnidiaeth, fel Ysgrifennydd Cyfiawnder, a bellach wedi ymddiried ynof i lywio ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy ei adferiad o’r pandemig byd-eang.

“Ond rydw i hefyd yn ei wneud oherwydd fy mod yn credu mewn annibyniaeth gyda phob ffibr o’m bod.

“Rwy’n credu bod angen annibyniaeth nawr yn fwy nag erioed o’r blaen, yn enwedig ar ôl degawd o galedi.

“Nawr mae ein gwrthwynebwyr yn daer i siarad am broses, rwyf am inni siarad am bolisi, rwyf am inni adeiladu a thyfu ein mudiad, o lawr gwlad i fyny.

“Rwyf hefyd yn cynnig fy hun oherwydd gadewch i ni fod yn onest, mae llawer gormod o raniad yn ein cymdeithas, mae llawer gormod o raniad yn ein disgwrs gwleidyddol, ac rwy’n credu bod gennyf y sgiliau i ymestyn ar draws y rhaniad a dod â phobol at ei gilydd, boed hynny yn ein plaid ein hunain, neu yn wir ar draws y wlad.”

Ash Regan

Fe wnaeth y cyn-weinidog Ash Regan hefyd datgan y bydd yn sefyll i gymryd yr awenau gan Nicola Sturgeon.

Mae’r cyn-weinidog diogelwch cymunedol yn fwyaf adnabyddus am roi’r gorau i’w swydd yn y llywodraeth mewn protest dros ddeddfwriaeth rhywedd ym mis Hydref y llynedd.

Ond mae hefyd wedi ennill rhai cefnogwyr amlwg ymhlith y proffesiwn cyfreithiol diolch i’w hymgysylltiad â nhw yn ystod y pandemig Covid.

Mae wedi bod yn Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caeredin ers 2016, ac mae’n dweud y byddai’n rhoi’r gorau i’r Bil Diwygio Cydnabod Rhyw (Yr Alban) ac yn galw am gonfensiwn annibyniaeth i “greu gweledigaeth newydd o Alban annibynnol”.

Mae hefyd wedi datgan ei chefnogaeth y tu ôl i’r syniad o ddefnyddio etholiad yn y dyfodol fel “refferendwm de facto”, gan ddweud y byddai pleidiau sydd o blaid annibyniaeth yn ennill dros 50% o’r bleidlais yn “gyfarwyddyd clir bod yr Alban yn dymuno bod yn genedl annibynnol”.

Mae hefyd wedi galw am ganiatáu i aelodau adawodd y blaid mewn protest dros ddeddfwriaeth diwygio rhyw ddychwelyd i bleidleisio yn y gystadleuaeth am yr arweinyddiaeth.

Kate Forbes

Y diweddaraf i ymuno â’r ras yw Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, Kate Forbes, fydd yn dirwyn ei chyfnod mamolaeth i ben yn gynnar er mwyn cymryd rhan yn y ras.

Cafodd ei phenodi ar gyfer y swydd yn dilyn ymddiswyddiad annisgwyl Derek Mackay, a chafodd ei gadael i gyflwyno Cyllideb yr Alban 2020 gydag ychydig oriau o rybudd yn unig.

Fe wnaeth Kate Forbes – yr Aelod Seneddol dros Skye, Lochaber a Badenoch – addo “arweinyddiaeth gymwys i sicrhau annibyniaeth”.

Dywedodd ei bod yn bryd “rhyddhau doniau llawn yr SNP, y mudiad Ie ehangach a’r wlad yn gyffredinol” wrth iddi addo sefyll am yr arweinyddiaeth er mwyn sicrhau annibyniaeth.

“Mae’r genedl a’r mudiad Ie ar groesffordd fawr,” meddai.

“Bydd y dewisiadau a wnawn yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf yn cael effaith ddofn ar ein dyfodol a dyfodol ein plant.

“Ni allaf eistedd yn ôl a gwylio ein cenedl yn cael ei rhwystro ar y ffordd i hunan benderfyniad.

“Mae ein cymdogion bach, annibynnol yn mwynhau cymdeithasau cyfoethocach, tecach a gwyrddach – a gallwn ninnau hefyd.

“Rydym angen rhywun y gall pleidleiswyr ymddiried ynddo, sydd ag uniondeb ac ymrwymiad.

“Fi yw’r arweinydd hwnnw – ac rwyf am arwain y blaid i ddyddiau gwell.”

Syndod nad yw Angus Robertson yn ymgeisio

Yn ôl Dr Jac Larner, darlithydd Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a chyd-awdur The Referendum that Changed a Nation: Scottish Voting Behaviour 2014-2019, mae dau geffyl blaen yn y ras.

“O’r tri ymgeisydd, y ddau sydd ar flaen y gad yn glir yw Kate Forbes a Humza Yousaf,” meddai wrth golwg360.

“Y ddau yma sydd â’r proffiliau mwyaf ar ôl cael eu gosod mewn swyddi cabinet amlwg yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

“O’r ddau hynny, mae’n debyg mai Yousaf yw’r ymgeisydd mwyaf tebygol o ennill ar hyn o bryd.

“Er gwaethaf denu penawdau negyddol ynghylch ei berfformiad fel Ysgrifennydd Iechyd a Thrafnidiaeth yn y gorffennol, mae ei wleidyddiaeth yn cyd-fynd yn llawer mwy ag aelodaeth gymdeithasol ryddfrydol yr SNP asgell chwith.

“Mae Forbes wedi ennill clod am ei pherfformiad fel Ysgrifennydd Cyllid a’r Economi ond mae’n llawer mwy ceidwadol yn gymdeithasol nag aelod a chefnogwr cyffredin yr SNP.

“Mae hyn yn debygol o frifo ei siawns pan fydd y safbwyntiau hyn yn cael eu harchwilio.

“Cefais fy synnu bod Angus Robertson wedi gwrthod rhoi ei enw ymlaen, gan ei fod yn ôl pob tebyg wedi gwneud fwyaf i alinio ei hun ag adain Nicola Sturgeon o’r SNP.

“Byddwn hefyd yn dychmygu bod sawl AS yr SNP wedi’u temtio ond o ystyried pwysigrwydd strategol cael arweinydd yr SNP yn Holyrood, rwy’n meddwl ei bod yn bur annhebygol y bydd unrhyw un yn rhoi eu henwau ymlaen.”