Fydd y cynlluniau ar gyfer adeiladu trydedd pont dros afon Menai ddim yn digwydd oherwydd bod prosiectau mawr i adeiladu ffyrdd yng Nghymru wedi eu canslo gan Lywodraeth Cymru, ac fe fydd “yn ddrwg i swyddi, busnesau a’r economi”, yn ôl perchennog busnes ym Môn.

Dywed perchennog busnes “Sew Anglesey” yn Llanfairpwll ei bod yn “siomedig” na fydd trydedd bont.

Daw hyn ar ôl i adolygiad ffyrdd Llywodraeth Cymru wrthod y cynllun i godi pont arall, wrth i Lee Waters, un o weinidogion Llywodraeth Cymru, ddweud bod angen edrych ar y sefyllfa “o fewn cyd-destun ehangach”.

Does “dim arian newydd” ar gyfer prosiectau o’r fath, meddai.

Mae teimladau cymysg am y penderfyniad i beidio adeiladu’r bont, gyda rhai yn teimlo y byddai’n well i’r amgylchfyd ac yn helpu Cymru i fod yn sero-net erbyn 2050.

Ni fydd cymaint o arian yn cael ei wario ar adeiladu ffyrdd newydd, ond yn hytrach fe fydd yn cael ei wario ar wella a datblygu ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.

“Siomedig”

Mae Yvonne Humphreys, perchennog Sew Anglesey, yn ofni’r effaith ar fusnesau o beidio cael pont arall, ac mae hi wedi gweld yr effaith yn barod oherwydd bod y bont wedi cau, gyda’r traffig yno’n ofnadwy.

“Mae’n siomedig na fydd trydedd bont,” meddai wrth golwg360.

“Mae angen trydedd bont oherwydd yr holl backlog, ac os bydd unrhyw beth yn digwydd eto, fel sydd wedi digwydd nawr, mae’r traffig yn mynd i fod yn ofnadwy.

“Dim ond damwain sy’n rhaid i chi ei chael ar y Britannia, a bydd yn dal yr holl draffig sy’n dod i mewn ac allan o Ynys Môn.

“Rwy’n meddwl y bydd yn ddrwg i swyddi, busnesau a’r economi.

“Rwy’n teimlo y dylem gael un, y dylem gael y drydedd bont.

“Bydd yn effeithio ar fusnesau ledled yr ynys, hyd yn oed oddi ar yr ynys.

“Mae cwpl o fusnesau wedi gorfod cau ym Mhorthaethwy oherwydd bod y bont wedi cau.”

Opsiwn arall

Fel ateb posib i’r sefyllfa, mae Yvonne Humphreys yn teimlo y dylid cael fferi i fynd â thraffig i ac o’r ynys.

“Rwy’n meddwl y dylen nhw gael croesfan fferi achos dydyn nhw ddim yn adeiladu pont er mwyn iddyn nhw fynd â cheir a bysiau draw,” meddai.

“Dydw i ddim yn golygu cwch fferi enfawr yn dod i’r ynys.

“Flynyddoedd yn ôl, roedd ganddyn nhw rafft.

“Byddai’r rafft er mwyn cario llawer o draffig drosodd.”

Yr amgylchedd

Dydy Yvonne Humphreys ddim yn teimlo y byddai trydedd bont yn ddrwg i’r amgylchfyd.

“Hyd yn oed os yw car wedi ei ddal am hanner awr i awr, mae gennych yr emissions o’r car,” meddai.