Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi talu teyrnged i’w cyn-arweinydd Dai Lloyd Evans, fu farw’n ddiweddar.
Darparodd wasanaeth hirsefydlog i Geredigion a’i thrigolion am flynyddoedd lawer yn cynrychioli ward Lledrod, a bu’n Arweinydd y Cyngor rhwng 1996 a 2006.
“Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Mr Dai Lloyd Evans yn eu galar,” meddai’r Cynghorydd Bryan Davies, arweinydd y Cyngor.
“Mawr yw dyled Ceredigion i’r gŵr hwn a roddodd o’i orau i’r sir hon bob amser, gan wasanaethu fel Arweinydd y Cyngor am ddeng mlynedd.”
Yn ôl Ifan Davies, cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, roedd Dai Lloyd Evans yn “ddyn a roddodd gymaint i Lywodraeth Leol drwy gydol ei oes”.
“Braint oedd cael dilyn yn ôl ei droed yn ward Lledrod yn 2008,” meddai.
Dywed Eifion Evans, Prif Weithredwr y Cyngor, fod Dai Lloyd Evans “wedi rhoi ei fywyd i Lywodraeth Leol am flynyddoedd lawer” a bod “cymaint wedi elwa o’i wybodaeth helaeth a’i weledigaeth”.
“Bu’n Arweinydd cadarn a oedd yn allweddol wrth arwain y Cyngor dros y blynyddoedd cyntaf o dan y weinyddiaeth newydd nôl yn 1996,” meddai.
“Roedd ei filltir sgwâr yn hynod bwysig iddo ond yr un oedd ei angerdd tuag at y sir, a’i frwdfrydedd at ein hiaith a’n diwylliant.
“Bu ei gyfraniad yn amhrisiadwy ac y mae Ceredigion yn dlotach hebddo.
“Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i’w briod, Margaret, a’r teulu oll yn eu profedigaeth.”
Bydd gwasanaeth angladdol cyhoeddus yn Eglwys Sant Caron, Tregaron, ddydd Gwener, Mawrth 3 am 1 o’r gloch, ac i ddilyn yn Breifat yn Amlosgfa Aberystwyth.