Cydweithio er mwyn sicrhau swyddi gwell, gwell gwasanaethau iechyd a gofal, amgylchedd mwy gwyrdd ac economi fwy ffyniannus sydd wrth wraidd strategaeth arloesi newydd i Gymru, sy’n cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Llun, Chwefror 27).

Mae’r weledigaeth drawslywodraethol newydd o arloesi er mwyn creu Cymru gryfach, decach a mwy gwyrdd yn dangos sut y bydd Llywodraeth Cymru’n mynd ati i arloesi mewn ffyrdd gwahanol yn y dyfodol.

Byddan nhw’n mabwysiadu agwedd “seiliedig ar genhadaeth” ac ar gydweithio sy’n cynnwys pedair cenhadaeth.

  • Addysg: Helpu i sicrhau bod gan Gymru system addysg fydd yn helpu pobol yng Nghymru i ddatblygu gwybodaeth ac i feithrin sgiliau arloesi drwy gydol eu bywydau, gan sicrhau y bydd talent, brwdfrydedd a photensial anhygoel ein pobol ifanc nid yn unig o fudd i economi Cymru yn y dyfodol ond eu bod nhw hefyd yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pobol.
  • Yr economi: Mynd ati i sicrhau bod Cymru’n genedl flaenllaw ac arloesol. Bydd economi Cymru’n arloesi er mwyn creu twf, yn cydweithio ar draws sectorau er mwyn datrys yr heriau sy’n wynebu’n cymdeithas, yn mabwysiadu technolegau newydd er mwyn gwella effeithlonrwydd a chynhyrchiant, yn defnyddio adnoddau mewn ffordd gymesur, ac yn caniatáu i ddinasyddion rannu cyfoeth drwy sicrhau gwaith teg.
  • Iechyd a Llesiant: Mae maint y galw sy’n wynebu system iechyd a gofal Cymru yn fwy nag y bu erioed o’r blaen. O dan y genhadaeth hon, bydd y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio â diwydiant, y byd academaidd a’r trydydd sector i ddarparu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn sicrhau mwy o werth ac effaith i ddinasyddion. Byddan nhw’n gweithio gyda’i gilydd ac yn arloesi er mwyn trawsnewid meysydd megis oedi wrth drosglwyddo gofal, y ddarpariaeth gofal yn y gymuned, gwasanaethau canser a gwasanaethau iechyd meddwl.
  • Yr Hinsawdd a Natur: Gwneud y defnydd gorau posibl o’n hadnoddau naturiol er mwyn gwarchod a chryfhau byd natur a datblygu’n gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd. Yng nghyd-destun ecosystemau, bydd Llywodraeth Cymru, wrth ymdrechu i arloesi, yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur ar yr un pryd, gan sicrhau eu bod nhw, wrth newid i economi llesiant, yn gwneud hynny mewn ffordd deg.

‘Sylfaen ar gyfer dyfodol deinamig i Gymru’

Mae’r strategaeth hon yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol deinamig i Gymru, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Ei nod yw cydweithio i sicrhau y bydd entrepreneuriaeth, arloesedd a thechnolegau newydd yn gallu cyrraedd pob rhan o’r gymdeithas, gan ddod â gwell iechyd, swyddi gwell a mwy o ffyniant i fusnesau, prifysgolion a chymunedau lleol.

Wrth i raglenni presennol yr Undeb Ewropeaidd ddirwyn i ben eleni ac oherwydd nad oes unrhyw sicrwydd y bydd Cymru’n cael cymryd rhan ym mentrau gwyddonol yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, mae natur y dirwedd ymchwil, datblygu ac arloesi yn newid yng Nghymru.

Mae’r strategaeth yn gwneud ymrwymiad cadarn y bydd gweinidogion Cymru yn ceisio sbarduno buddsoddiad oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig a thu hwnt ym meysydd ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag asiantaethau arloesi’r Deyrnas Unedig pan fydd ganddyn nhw nodau cyffredin, ar ôl iddyn nhw ddatgan eu bwriad i gynyddu buddsoddiad ym meysydd ymchwil, datblygu ac arloesi yn sylweddol y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr.

Hefyd, mae’r gweinidog yn cadarnhau heddiw nad dim ond i fusnesau a sefydliadau ymchwil yn unig y bydd cymorth Arloesi Hyblyg SMART ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru o hyn ymlaen.

Bydd ar gael i unrhyw sefydliad fydd am weithio ym meysydd ymchwil, datblygu ac arloesi, gan gynnwys y trydydd sector, yr awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd.

Mae datblygu Strategaeth Arloesi yn rhan o’r Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

‘Adeg dyngedfennol i’n gwlad’

Wrth lansio’r Strategaeth Arloesi yn Renishaw plc ym Meisgyn, dywed Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, ei bod hi’n cael ei lansio ar “adeg dyngedfennol” i Gymru.

“Wrth i’r rhaglenni sy’n cael eu hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd ddirwyn i ben eleni, ac oherwydd nad oes unrhyw sicrwydd y byddwn ni’n cael cymryd rhan ym mentrau gwyddonol yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, bydd y dirwedd ymchwil, datblygu, ac arloesi yn newid yng Nghymru,” meddai.

“Mae’r ffaith bod y Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bod Cymru yn colli arian a rheolaeth, a bod ganddi lai o lais dros lai o arian.

“Felly, nod y strategaeth hon yw’n harwain at ffordd wahanol o arloesi.

“Allwn ni ddim cystadlu ym mhob maes, ond gallwn ni ddewis cenadaethau sy’n manteisio i’r eithaf ar ein cryfderau ac sy’n creu cyfleoedd newydd er budd y cyhoedd.

“Mae’n cenadaethau’n rhychwantu sawl sector ac yn mynd i’r afael â nifer o’r heriau sy’n ein hwynebu.

“Mae arloesi yn rhywbeth i bawb: dylai pawb yng Nghymru gael cyfle i fod yn rhan o’r arloesi hwnnw, ac i elwa arno.

“Mae Llywodraeth Cymru yn ddiwyro yn hyn o beth ac yn benderfynol o helpu pob rhanddeiliad i arloesi.

“Mae’n benderfynol hefyd o fod yn “Bair Dadeni”, ac i ddefnyddio’r grym sydd ganddi i ddod â busnesau a sefydliadau at ei gilydd i gydweithio yn y ffordd sydd ei hangen er mwyn inni fedru mynd â’r maen i’r wal.”

Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati cyn bo hir i gyhoeddi Cynllun Gweithredu atodol, fydd yn cynnwys nodau penodol a mesuradwy er mwyn symud pob un o’u cenadaethau yn eu blaen.