Dydy dros 50% o ddynion ag anhwylder bwyta erioed wedi cael triniaeth, yn ôl arolwg gan Beat, sydd hefyd yn datgan nad yw traean o ddynion erioed wedi ceisio triniaeth.

Cafodd yr arolwg ei gynnal fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Bwyta,  hwn yw’r arolwg mwyaf erioed yn y Deyrnas Unedig o brofiadau dynion sydd ag anhwylder bwyta.

Yn ôl Beat, mae dros 15,000 o ddynion yng Nghymru wedi cael eu heffeithio gan anhwylder bwyta, ac maen nhw’n pwysleisio y gall fod yn fwy anodd eu trin os nad yw rhywun yn cael triniaeth yn gyflym.

O blith y traean sydd erioed wedi ceisio triniaeth, doedd bron i hanner y rheiny ddim yn ymwybodol fod triniaeth ar gael, hyd yn oed.

Dywedodd nifer o ddynion yng Nghymru nad oedden nhw’n sylweddoli bod angen triniaeth arnyn nhw, neu eu bod nhw’n gofidio sut fyddai pobol eraill yn ymateb iddyn nhw.

Dywedodd nifer nad oedden nhw’n teimlo eu bod nhw’n gallu trafod eu salwch â phobol eraill, gydag un dyn yn dweud nad oedd ganddo’r “iaith na’r geiriau i ddisgrifio” sut mae’n teimlo.

Dywedodd un arall fod gwybodaeth ynghylch anhwylderau bwyta’n “aml wedi’i hanelu at fenywod fel bod ceisio cael cymorth yn y cyd-destun hwnnw’n annioddefol o anodd”.

Yn ogystal, doedd saith ym mhob deg o ddynion sydd ag anhwylder bwyta ddim wedi clywed am ddynion eraill yn dioddef cyn mynd yn sâl.

Roedd nifer o Gymru wedi mynegi anghrediniaeth fod dynion yn gallu cael anhwylder bwyta o ganlyniad i ddiffyg ymwybyddiaeth.

Soniodd eraill am yr ymateb negyddol weithiau wrth i ddynion drafod anhwylder bwyta yn y cyfryngau a bod y fath sefyllfa’n gallu bod yn destun “embaras” i ddynion.

Wythnos Ymwybyddiaeth

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Bwyta (Chwefror 27 i Fawrth 5), mae Beat yn ymgyrchu i dorri’r stigma ynghylch anhwylderau bwyta ymhlith dynion, dileu ystrydebau niweidiol ac annog dynion i geisio cymorth.

“Mae’n bryderus dros ben nad yw cynifer o ddynion ag anhwylder bwyta yng Nghymru erioed wedi ceisio cefnogaeth am eu salwch,” meddai Jo Whitfield, Arweinydd Beat yng Nghymru.

“Mae yna chwedl fod anhwylderau bwyta’n salwch ‘menywod’, sy’n gallu ei gwneud hi’n eithriadol o anodd i ddynion adnabodd y rhybuddion cynnar, estyn allan am gefnogaeth, neu hyd yn oed i wybod pa driniaeth sydd ar gael.

“Rhaid i ddynion allu cael mynediad at y driniaeth maen nhw’n ei haeddu.

“Tra bod ymwybyddiaeth yn gwella’n araf, mae’n hanfodol gwella dealltwriaeth y gymdeithas o anhwylderau bwyta i helpu i sicrhau nad yw dynion yn diodde’n dawel.

“Rhaid i hyn gynnwys gwrando ar bobol ag anhwylderau bwyta o bob rhywedd, oed a chefndir, a pharhau â’r gwaith mawr ei angen i dorri stigma niweidiol.

“Mae anhwylderau bwyta’n salwch meddwl cymhleth, ond hoffem sicrhau pobol fod adferiad yn bosib.

“Yn Beat, byddwn yn parhau i gefnogi’r rheiny ag anhwylderau bwyta a’u hanwyliaid, yn ogystal ag annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled y genedl.”

‘Angen gwneud mwy yn hytrach na chadw’n dawel’

“Yn draddodiadol, mae’n bosib nad yw nifer o ddynion wedi bod eisiau dod ymlaen am driniaeth neu gyfaddef fod ganddyn nhw anhwylder bwyta, ond mae’n bwysig iawn eu bod nhw,” meddai Dr Isabella Jurewicz, cadeirydd Cyfadran Anhwylderau Bwyta Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru.

“Y gwir amdani yw fod salwch megis bwlimia ac anorecsia yn effeithio ar ddynion a bechgyn.

“Tra bod tueddiadau’n awgrymu bod mwy o ddynion nag erioed o’r blaen yn ceisio cymorth, mae angen i ni wneud mwy yn hytrach na chadw’n dawel am y peth.

“Mae angen i ni newid y stigma a’r embaras ynghylch anhwylderau bwyta ymhlith dynion am byth.”