Erthygl wych arall gan Dr Sara.

Yn wir, cytunaf fod deyieithrwydd yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobol. Rwy’n dod o Landysul yn wreiddiol, ardal lle mae’r Gymraeg yn gryf o hyd.

Mynychais dair ysgol uwchradd rhwng 1996 a 2003, y ddwy gyntaf yn rhai ‘Cymraeg’ a’r drydedd yn gwbl ddwyieithog lle roedd yna ffrwd Gymraeg a dim pwysau o gwbl i siarad y naill iaith na’r llall.

Yn anffodus, profiad negyddol iawn gefais i yn y ddwy ysgol gyntaf. Nid addysg oedd y flaenoriaeth mewn gwirionedd, ond yn hytrach, y Gymraeg a’i diwylliant. Nid athrawon gefais i, ond siaradwyr Cymraeg. Yn wir, wrth edrych yn ôl, ni ddylai’r mwyafrif ohonynt fod wedi bod ar gyfyl plant na’r system addysg. Fel mewn sawl maes proffesiynol arall yng Nghymru, byddai’r mwyafrif wedi bod yn llenwi silffoedd mewn archfarchnad pe na baent yn siarad Cymraeg.

Ond yr eironi mawr yn y dyddiau hynny, yw yr addysgwyd gwyddoniaeth a mathemateg drwy’r Saesneg hyd yn oed yn yr ysgolion Cymraeg. Rwy’n cofio’r athrawes yn cynnig addysgu mathemateg i ni drwy’r Gymraeg, ond doedd neb ohonom ni eisiau. Roedd meddylfryd yr ysgolion gramadeg yn dal mewn grym, gyda’r athrawon heb gael addysg uwchradd Gymraeg eu hunain ac felly’n anhyderus wrth ein haddysgu am hafaliadau yn y Gymraeg.

Astudiais y Gymraeg yn y Brifysgol, a chymhwysais fel athro Cymraeg, er nad dyna yw fy swydd erbyn hyn. Ond o’r hyn a welais i yn yr ystafell ddosbarth, mae yna elfen hollol greulon yn perthyn i addysg Gymraeg i blant sydd ddim yn ei siarad hi adref, ac yn enwedig i’r rhai sy’n isel eu gallu. Roedd fy lleoliad TAR mewn ysgol ‘Gymraeg’ yng nghymoedd y de, ardal gyda phroblemau cymdeithasol enbyd ac arswydus. Roedd rhieni’r plant yn meddwl eu bod nhw’n gwneud y peth iawn drwy anfon eu plant yno, heb fawr o syniad o wir oblygiadau cael eich addysgu drwy eich ail iaith.

Anghofiaf fyth addysgu plant pymtheg oed oedd wedi bod trwy’r system Gymraeg ers eu babandod oedd methu hyd yn oed cyfieithu’r frawddeg ‘I have a cat’ i’r Gymraeg. ‘Fi’n cael cath’ oedd yr ateb! Bob wythnos, roedd yna gyhoeddiad yn yr ystafell ddosbarth bod rhyw ddisgybl yn symud i’r ysgol Saesneg gan nad oedden nhw’n gallu ymdopi â’r iaith. Ac wrth gwrs, yn y math yma o ysgol, Cymraeg oedd iaith POB pwnc. Pan welais i athrawon Cymraeg yn cywiro gwaith disgyblion gyda chywiriadau anghywir, ces i lond bol. Y dall yn arwain y dall.

Os yw’r Gymraeg i’w chyflwyno i’n hysgolion, fi’n credu taw system 50:50 neu 70:30 i bawb fyddai orau. Wrth dyfu lan yng Ngheredigion, roedd Saesneg llawer iawn o’m cyfoedion yn wan ofnadwy. Yn wir, rwy’n adnabod un fenyw sy’n gweithio i’r sir heddiw lle mae gofyn iddi deithio o gwmpas ysgolion yn sicrhau safon Saesneg nid yn unig y disgyblion, ond yr athrawon hefyd!

Ysywaeth, mae’r cwestiynau sy’n ein hwynebu bellach mor ddyrys gan nad ydyn nhw wastad yn ymwneud ag addysg. Mae ein cymdeithas wedi chwalu’n deilchion, tadau absennol, mamau sy’n gorfod gweithio ac yn gorfod ffarmio eu plant i ryw ionc 16 oed mewn meithrinfa. Does dim naratif diwylliannol na chrefyddol a bellach rydym yn trosglwyddo iaith heb wareiddiad i’n plant. Ond stori arall yw honno.

O ran y Gymraeg ei hun, rwy wirioneddol yn credu ei bod hi’n rhy hwyr. Os ydym am bwyso ar y system addysg i gynyddu nifer y siaradwyr, doeth fyddai ariannu cyrsiau Cymraeg i oedolion a sicrhau eu bod nhw am ddim i’r mwyafrif. Ond piso dryw bach yn y mor yw hyn. Mae brethyn cymdeithasol yr iaith wedi rhwygo ers o leiaf 20 mlynedd a mwy erbyn hyn oherwydd all-lifiad economaidd.

Yn wir, hyd yn oed gyda hanner gradd yn y Gymraeg, rwyf wedi gorfod symud i bump o wledydd gwahanol i sicrhau swydd sy’n talu digon i gadw fy mhen uwchben y dŵr! Saeson sy’n ffurfio mwyafrif mewn sawl cymuned yr yr hen fro Gymraeg bellach, ac mae ein pobol ifanc – os ydyn nhw’n gallu aros yng Nghymru – ond ffeindio eu hunain yn gweithio mewn segurswyddi yn ein prifddinas ac yn cyfrannu ar y rhwydweithiau dwyieithog brau sydd bellach wedi ffurfio yna ers o leiaf dair cenhedlaeth.

Dyw ein gwleidyddion bellach, gyda’u penderfyniad i ‘greu Cymru dwyieithog’ ddim wir yn deall y boen a’r ing mae miloedd ohonom ni Gymry Cymraeg sydd wedi ei harddel a’i siarad ers ein babandod yn ei deimlo wrth i ni weld ein hiaith a’n ffordd o fyw yn diflannu o fewn cenhedlaeth.

Mae Dr Sara yn codi cwestiynau gwych ac mae’n ddigon dewr i gydnabod realiti sefyllfa’r Gymraeg o fewn byd addysg. Yn anffodus, dwi wir yn credu ei bod hi’n rhy hwyr i’w hateb nhw.

Pob lwc a bendith i chi, ac edrychaf ymlaen at eich erthygl nesaf.