Fel sawl un ohonoch, mae’n debyg, rwy’ wedi bod wrthi’n dilyn yr ymgyrch dros Ddeddf Addysg Gymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith, ymysg eraill, yn galw am roi pob ysgol ar lwybr i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg, drwy osod nod statudol i sicrhau hynny yn y Ddeddf Addysg Gymraeg sydd ar y gweill gan y Llywodraeth.
Yn hynny o beth, byddai pob plentyn yng Nghymru yn cael eu trochi yn yr iaith Gymraeg trwy’r system addysg, wrth dderbyn eu haddysg 100% trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ôl pob tebyg, byddai hyn yn helpu i wrthdroi’r ffigyrau brawychus welson ni yn y Cyfrifiad diweddaraf, gan roi’r Gymraeg ar dafod pob plentyn yng Nghymru. Digon teg, os medrwch pasio deddf o’r fath a’i rhoi ar waith.
Fodd bynnag, er mwyn i hynny weithio, byddai rhaid i’r boblogaeth gyfan fod ‘on-board’ hefo’r syniad o fod eisiau siarad Cymraeg ac, ymhellach, bod yn fodlon dysgu’r iaith wrth fynd trwy’r system addysg. Mae’n rhaid argyhoeddi rhieni o deuluoedd lle nad oes Cymraeg ar yr aelwyd fod hyn yn rywbeth maen nhw ei eisiau i’w plant.
Y ddadl am amddifadu
Un o brif selling points troi pob ysgol yn un cyfrwng Cymraeg, yw ei bod yn dod â chyfiawnder i sefyllfa sydd ar hyn o bryd yn annheg. Dadleuwyd fod angen gweithredu er mwyn rhoi terfyn ar amddifadu 80% o blant Cymru o’r Gymraeg.
Mae hyn yn ddigon teg, a dw i’n siŵr ein bod ni i gyd yn medru meddwl am unigolyn rydym wedi cwrdd â nhw sydd yn difaru’n daer na chawson nhw’r cyfle i ddysgu Cymraeg yn blentyn. Ond… Mae yna hefyd lawer iawn o bobol yng Nghymru sy’n teimlo’n gwbl groes i hyn.
Mae yna unigolion sydd erioed wedi dysgu Cymraeg, na hyd yn oed wedi ystyried dysgu Cymraeg – gan gynnwys Cymry sydd wedi byw yr ochr yma i Glawdd Offa ers sawl cenhedlaeth. Mae rhai yr un mor angerddol yn erbyn yr iaith ag y mae’r gweddill ohonom o’i phlaid hi.
Yna, mae yna rai sydd wedi anfon eu plant i ysgolion Cymraeg ond sydd wedyn yn difaru oherwydd, yn eu tyb nhw, mae eu plant wedi cael trafferth addasu i wneud Lefel A trwy gyfrwng y Saesneg; a does dim pwynt dadlau am ‘realaeth’ hyn ai peidio, mae’r naratifau allan ene yn y byd, i bawb eu clywed.
Tirlun clytwaith a’r angen i gyfaddawdu
Wna i droi fama unwaith eto at fro fy mebyd – dinas-sir Wrecsam, gan taw dyma fydd un o’r ardaloedd mwyaf anodd eu hargyhoeddi. Dyma ardal ddwyieithog ar ei gorau. Nid yw’r Gymraeg yn ‘brif ffrwd’ yma, ac mae yna hefyd deimladau gwrth-Gymraeg ffyrnig.
Ac i’r pair peryglus hwn rydym yn ystyried lluchio’r syniad o addysg cyfrwng Gymraeg 100% i bawb, heb ddewis… rili?! Dwi’n rhagweld gwrthwynebiad chwerw wrth i bobol deimlo eu bod nhw’n cael eu gorfodi i gydymffurfio â diwylliant estron.
Llawer iawn gwell, yn fy marn i, fyddai cyfaddawdu, a hynny drwy gynllunio ar gyfer addysg ddwyieithog, fel sydd mewn sawl gwlad. Ac oes, mae yna risg taw lip-service i’r Gymraeg fyddai hyn, ac mai addysg cyfrwng Saesneg fyddai pawb yn ei chael yn y bôn. Ond tydi hi ddim yn gorfod bod fel yna, nac ydi? Ddim os ni’n sicrhau fod pob dim yn ei le yn gyntaf.
Cyfrwng Cymraeg v dwyieithrwydd
Ges i addysg cyfrwng Cymraeg 100%, a doedd gen i ddim geirfa yn y Saesneg er mwyn ailsefyll TGAU Mathemateg trwy gyfrwng y Saesneg, unwaith i fy anghenion addysgol arbennig cael eu darganfod, ddim hyd yn oed y gair Saesneg am betryal!
A rhaid dweud, dwi’n gofyn i fi fy hun weithiau, wrth ddarllen yr erthyglau niferus am y Ddeddf Addysg Gymraeg, a ydy astudio mathemateg 100% yn Gymraeg, wir yr, yn angenrheidiol er mwyn gwarchod rhuglder plentyn yn y Gymraeg? Neu fysa dysgu yn ddwyieithog yn ddigon?
Hawdd fyddai i bobol sydd ddim yn fy adnabod sbïo arnaf a meddwl fy mod wedi cael budd o addysg Gymraeg, o ran bod yn rhugl nawr, ond camsyniad fyddai hyn. Ond am un peth, roedd teulu fy nhad yn rhugl, ac roeddwn yn rhugl pan ddechreuais yr ysgol.
Saesneg oedd iaith y buarth, ac aeth fy Nghymraeg yn fwy carpiog fel disgybl – gweler y gerdd ‘Over the llestri’ gan Aled Lewis Evans am fanylion pellach – mae’n darllen fel monolog bersonol gen i yn blentyn ysgol!
Yn hytrach, mae fy Nghymraeg wedi gwella’n syfrdanol fel oedolyn, a hynny drwy flynyddoedd o waith caled, gan gynnwys 11 mlynedd o sgwennu colofn lenyddol ym mhapur bro Y Clawdd, gan dreulio oriau hefo geiriaduron niferus a llyfrau iaith eraill.
Mae taith iaith pob un ohonom yn unigryw, ac nid addysg ysgol yw’r unig ffordd o sicrhau siaradwyr Cymraeg rhugl; mae’n medru bod yn help, wrth gwrs, ond bysa addysg ddwyieithog hefyd yn help, ac yn haws i rai ei derbyn wrth i’r ddadl ddi-derfyn hyn barhau.