Mae gweithwyr Cymru wedi gweithio gwerth £703m o oramser dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ymchwil Cyngres Undebau Llafur y TUC.

Heddiw (dydd Gwener, Chwefror 24) yw’r diwrnod pan fo gweithwyr yn cael eu hannog i weithio’r oriau sydd yn eu cytundebau a gorffen yn brydlon, a hynny gyda chymorth eu cyflogwyr sydd yn cael eu hannog i sicrhau llwyth gwaith rhesymol i’w gweithwyr a chyflwyno polisïau sy’n gwarchod gweithwyr rhag blinder.

Yn ôl y TUC, mae hawliau hanfodol gweithwyr yng Nghymru sy’n eu gwarchod nhw rhag arferion sy’n groes i gyfreithiau oriau gwaith “yn y fantol” o ganlyniad i Fil Cyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd.

Casgliadau’r ymchwil

Yn ôl yr ymchwil, fe wnaeth 3.5m o bobol – poblogaeth Cymru gyfan – oramser cyfartalog o 7.4 awr di-dâl yr wythnos yn 2022 – ar gyfartaledd, mae hynny’n golygu gwaith gwerth £7,200 yn cael ei gwblhau’n ddi-dâl.

Fe wnaeth yr ymchwil ganfod hefyd fod y pandemig wedi’i gwneud hi’n fwy anodd i ddeall tueddiadau hirdymor o ran goramser di-dâl, ond mae’r ffigurau’n dangos bod goramser di-dâl yn broblem o hyd i rai miliynau o weithwyr er nad yw’r rhan fwyaf o weithwyr yn cwblhau’r fath waith.

Roedd gostyngiad bach yn nifer y gweithwyr wnaeth goramser di-dâl yn 2022 o gymharu â 2021 (3.5m i lawr o 3.8m) a chyfanswm yr oriau di-dâl (7.4 awr i lawr o 7.6 awr yn 2021). Ond roedd cynnydd bach ar adegau gwahanol yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae athrawon, rheolwyr a chyfarwyddwyr ymhlith y rhai sy’n gwneud y nifer fwyaf o oriau di-dâl, sy’n awgrymu nad yw eu llwyth gwaith yn cael ei reoli’n briodol gan gyflogwyr.

Mae goramser di-dâl yn fwy cyffredin yn y sector cyhoeddus, gydag un ym mhob saith gweithiwr (14.8%) yn gwneud goramser di-dâl o gymharu ag un ym mhob nawr yn y sector preifat.

Hawliodd y llywodraeth £8.6bn o oramser di-dâl gan staff y sector cyhoeddus y llynedd, o gyfartaledd o fwy nag wyth miliwn awr bob wythnos o oramser di-dâl mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Bil newydd

Bydd Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (Dirymiad a Diwygiad) a Gadwyd, sydd gerbron Tŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd, yn dileu’r holl ddeddfwriaeth ddaw o’r Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae hyn yn cynnwys gwarchodaeth o ran oriau gwaith, sydd bellach yn rhan o gyfreithiau’r Deyrnas Unedig, ac yn eu plith mae gwarchod uchafswm oriau gwaith yr wythnos, seibiant dyddiol o’r diwrnod gwaith, cyfnodau wythnosol o seibiant rhwng diwrnodau gwaith, a gwyliau blynyddol ar gyflog.

Gallai gweinidogion benderfynu cynnal y drefn bresennol, ond dydyn nhw ddim wedi cyflwyno amserlen ar gyfer y ddeddfwriaeth sydd ei hangen, a dydyn nhw ddim chwaith wedi cyhoeddi rheoliadau drafft.

Yn ôl y TUC, mae hyn yn ei gwneud hi’n amhosib bod yn hyderus y bydd gwarchodaeth lawn o ran oriau gwaith, gyda rhai yn poeni y gallai gael ei gwanhau neu ei dileu’n llwyr.

Mae’r undeb, ynghyd â chyrff eraill fel y Sefydliad Cyfarwyddwyr a Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, yn galw am ddileu’r ddeddfwriaeth.

‘Ddylai oriau di-dâl fyth bod yn arfer rheolaidd’

“Does gan neb ots gweithio oriau hirach o dro i dro,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres Undebau Llafur y TUC.

“Ond mae rhai gweithwyr yng Nghymru’n gwneud gwerth miloedd o bunnoedd o oramser di-dâl bob blwyddyn.

“Ddylai oriau di-dâl fyth bod yn arfer rheolaidd – ecsbloetio yw hynny.

“Gyda phrinder staff mewn nifer o ddiwydiannau, mae dwyster gwaith a phwysau i weithio diwrnodau hirach yn broblem fawr.

“Ac mae’r hawliau hirsefydledig sydd gan weithwyr i warchod rhag camddefnyddio oriau gwaith yn y fantol.

“P’un a wnaethoch chi bleidleisio dros Brexit ai peidio, wnaeth neb ohonom bleidleisio i gael dileu ein gwarchodaeth yn y gweithle.

“Dylai gweinidogion y Deyrnas Unedig ddileu’r Bil sy’n mynd drwy’r senedd sydd yn peryglu’r hawliau hyn.

“Ledled y Deyrnas Unedig, mae gweithwyr y sector cyhoeddus yn gwneud mwy nag wyth miliwn awr yr wythnos o oramser di-dâl.

“Allan nhw ddim parhau â diolchgarwch yn unig.

“Mae staff yng Nghymru’n llosgi allan ac yn gadael eu proffesiwn.

“Y cam cyntaf tuag at drwsio’r argyfwng recriwtio yw rhoi’r codiad cyflog i staff y sector cyhoeddus maen nhw’n ei haeddu, ac sydd ei angen arnyn nhw i’w cadw nhw allan o fanciau bwyd.

“Bydd hyn yn helpu Cymru i ddal gafael ar y bobol sy’n cadw ein hysgolion, ysbytai a gwasanaethau hanfodol eraill i redeg.

“Rhaid i weinidogion y Deyrnas Unedig amlinellu eu cynlluniau hefyd i gyflymu’r broses recriwtio i lenwi swyddi, fel nad yw staff presennol yn cael eu gadael yn gweithio goramser di-dâl er mwyn llenwi bylchau.”

Rhybudd y bydd Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (Dirymiad a Diwygiad) a Gadwyd yn tanseilio’r Senedd

“Er mwyn i ni gael cyfraith dda yng Nghymru ar feysydd hanfodol fel yr amgylchedd ac amaethyddiaeth, mae’n rhaid i ni gael goruchwyliaeth”