Mae cwmni parciau gwyliau Haven wedi pwysleisio eu bod nhw’n “aelod gweithredol balch o gymuned Pwllheli”, yn dilyn dadl am arwyddion uniaith Saesneg.
Yn ôl y cwmni, mae “cryn dipyn” o’u harwyddion ym mharc Hafan y Môr yn ddwyieithog.
Daw’r sylwadau ar ôl i gynghorwyr dynnu sylw at arwyddion uniaith Saesneg newydd yn y parc, gan ddweud bod y sefyllfa’n adlewyrchu “anghynaladwyedd” y diwydiant twristiaeth.
Ar ôl codi’r mater gyda chwmni Haven yn Gymraeg, daeth ateb yn Saesneg gan swyddog yn dweud nad oedd hi’n medru Cymraeg, yn gofyn am ohebiaeth Saesneg, ac yna’n cyhuddo un o’r cynghorwyr o wahaniaethu yn ei herbyn ar ôl iddo ddanfon e-bost yn ddwyieithog.
Mae Haven wedi ymddiheuro na wnaethon nhw ddarparu’r “safon uchel arferol o wasanaeth a chyfathrebu rhwng aelod o’r tîm a’r cynghorydd”, gan ddweud eu bod nhw’n edrych ar y mater ar unwaith.
“Rydyn ni’n falch o fod yn aelod gweithredol o gymuned Pwllheli, ac mae cryn dipyn o’n harwyddion ym mharc Hafan y Môr yn ddwyieithog,” meddai llefarydd ar ran Haven.
Un o’r arwyddion dan sylw oedd arwydd newydd yn dweud ‘Welcome to Hafan y Môr’ ger y brif fynedfa, ac mae’r arwydd hwnnw bellach yn ddwyieithog, meddai Haven.
Maen nhw hefyd yn dweud bod datblygiadau newydd yn y parc gafodd eu hadeiladu yn 2022 ag enwau Cymraeg, gan gynnwys Moranedd, Ogwen a Harlech.
Bydd gan y datblygiadau arfaethedig ar gyfer 2023 enwau Cymraeg hefyd, gan gynnwys Sant Tudwal ac Ynysoedd Tudwal.
Dywed y cwmni hefyd fod cynnal deialog agored a dibynadwy gyda’r gymuned a Chyngor Gwynedd yn bwysig iddyn nhw.
Twristiaeth gynaliadwy?
Mae’r ddadl wedi codi cwestiynau cyffredinol am sut mae polisïau presennol yn sicrhau bod y diwydiant twristiaeth yn cyfrannu tuag at y diwylliant lleol.
“Mae’n codi’r galw i’w gwneud hi’n anghenraid i unrhyw ddatblygiad twristaidd fod yn coleddu’r diwylliant lleol,” meddai Rhys Tudur, cynghorydd Llanystumdwy, gododd y mater.
“Hyd yma, y maen prawf ydy os ydy o’n rhoi budd i’r diwylliant lleol ond y ffordd hawsaf o ddangos os ydy o’n rhoi budd, ac yn bwysicaf oll yn dangos parch, i’r diwylliant lleol ydy eu bod nhw’n defnyddio’r iaith leol sydd yn cael ei siarad gan drwch y boblogaeth. A dydyn nhw ddim yn gwneud hynny, maen nhw’n wrthun i’r peth.
“Be’ ydyn ni eisiau ydy mwy o allu i fynd i’r afael efo’r busnesau yma sy’n datblygu a sicrhau bod twristiaeth nid yn unig yn gynaliadwy ond yn coleddu’r diwylliant lleol.”
‘Meddylfryd trefedigaethol’
“Mae’n awgrymu meddylfryd trefedigaethol yn y sector ymwelwyr pan nad ydy honno ym meddiant a dan reolaeth brodorion,” meddai’r Cynghorydd Richard Glyn Roberts, sy’n cynrychioli ward Abererch, sy’n cynnwys Hafan y Môr.
“Yr agwedd drefedigaethol yma tuag at grŵp ieithyddol tiriogaethol bregus iawn, hynny yw does yna ddim llawer o’r ardaloedd yma ar ôl.
“Mae yna lawer o sôn am dwristiaeth gynaladwy gan sefydliadau cyhoeddus y dyddiau yma, fyswn i jyst yn gofyn ydy hon yn enghraifft dda o dwristiaeth gynaliadwy? Be sydd mewn golwg wrth sôn am dwristiaeth gynaliadwy?”