Mae galwadau i roi arwyddion dwyieithog newydd mewn parc gwyliau ger Pwllheli wedi tynnu sylw at natur “anghynaladwy” twristiaeth, yn ôl cynghorwyr lleol.
Daeth i sylw cynghorwyr sir Abererch a Llanystumdwy fod parc Hafan y Môr wedi codi arwyddion uniaith Saesneg wrth fynedfa’r parc a ger datblygiad caffi newydd.
Ar ôl codi’r mater gyda chwmni Haven yn Gymraeg, daeth ateb yn Saesneg gan swyddog yn dweud nad oedd hi’n medru Cymraeg, yn gofyn am ohebiaeth Saesneg, ac yna’n cyhuddo un o’r cynghorwyr o wahaniaethu yn ei herbyn ar ôl iddo ddanfon e-bost yn ddwyieithog.
Mewn e-byst sydd wedi’u rhannu â golwg360, dywedodd y swyddog wrth Rhys Tudur, cynghorydd Llanystumdwy, i ddechrau: “Dw i ddim yn siaradwr Cymraeg, felly dw i methu ymateb i’ch e-bost”.
Wedi iddo yrru e-bost dwyieithog yn holi a fyddai’n bosib iddi ddanfon ei ymholiad gwreiddiol at gydweithiwr sy’n medru’r Gymraeg, cafodd ei gyhuddo o “wahaniaethu” yn ei herbyn.
“Dw i’n hapus iawn i dderbyn e-byst gennych drwy gyfrwng y Gymraeg, ond eich cyfrifoldeb chi yw darparu cyfieithiad, ac nid i fi ofyn i gydweithiwr,” meddai’r ymateb.
“Dw i’n cael fy arwain i gredu bod Cymru yn wlad amrywiol a chynhwysol, ac na fydd gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolyn.
“Fodd bynnag, mae’n rhaid i fi ddweud bod eich e-byst wedi gwneud i mi deimlo fel fy mod i’n cael fy mwlio a fy nhrin yn nawddoglyd, ac yn sicr bod yna wahaniaethu yn fy erbyn.
“Dw i’n siŵr nad eich bwriad oedd bod yn ddigywilydd, a byddwn yn hoffi ateb eich ymholiad.
“Ond, oni bai eich bod chi’n darparu cyfieithiad Saesneg, ni fyddaf yn gallu cyfathrebu ymhellach â chi.”
Cafodd Richard Glyn Roberts, cynghorydd Abererch, ymateb cyntaf tebyg gan yr un swyddog, ac ar ôl gofyn yn Saesneg a fyddai cydweithiwr Cymraeg yn gallu cynorthwyo, cafodd yr ateb: “Gyda pharch, Mr Roberts, os ydych chi angen fy nghymorth, os gwelwch yn dda, gofynnwch i fi mewn iaith dw i’n ei deall.”
‘Amarch’
Yn ôl Rhys Tudur, mae yna oblygiad ar Hafan y Môr, drwy geisiadau cynllunio, i osod arwyddion dwyieithog.
“Be’ sydd gan [Gyngor] Gwynedd fel polisïau ar eu cyfer nhw fel arfer ydy eu bod nhw’n gwneud arwyddion dwyieithog; yn amlwg, dydyn nhw heb gydymffurfio efo hwnnw,” meddai wrth golwg360.
“Dyma ydyn ni’n weld, pethau sydd ddim yn dangos parch at y Gymraeg a’n diwylliant ni a thwristiaeth cwbl anghynaladwy sydd ddim wedi’i gysylltu efo’r diwylliant cynhenid.
“Does yna ddim byd sy’n dangos mwy o amarch na datblygiadau felly sydd ddim yn parchu’r iaith a’r diwylliant brodorol; dyna rydyn ni’n ei weld, ryw agwedd drefedigaethol o jyst defnyddio’r Saesneg yn unig.
“Mae’r agwedd honno i’w gweld yn blaen wrth i fi godi’r ymholiad o’r ymatebion sy’n honni bod yna ddiscrimineiddio dim ond drwy ofyn rhywbeth yn ddwyieithog, a gofyn os fedrith rhywun Cymraeg ddelio efo fo.
“Siom ydy bod yna neb yn medru delio efo’r ymholiadau yn Gymraeg, ac nid yn unig eu bod nhw methu delio efo fo ond eu bod nhw’n gwbl amharchus yn eu hymateb.
“Mae rhywbeth fel hyn yn amlygu’r ffaith nad oes yna brin ddim o reolaeth gennym ni ar y datblygiadau twristaidd yma er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gynaliadwy.”
Coleddu’r diwylliant lleol
Er bod Asesiadau Effaith Ieithyddol wedi cael eu gwneud fel rhan o geisiadau cynllunio Hafan y Môr yn y gorffennol, dydy’r polisïau sydd mewn grym ddim yn llwyddo i ddwyn cyrff i gyfrif yn effeithiol, yn ôl Rhys Tudur.
“Mae’n codi’r galw i’w gwneud hi’n anghenraid i unrhyw ddatblygiad twristaidd fod yn coleddu’r diwylliant lleol,” meddai.
“Hyd yma, y maen prawf ydy os ydy o’n rhoi budd i’r diwylliant lleol ond y ffordd hawsaf o ddangos os ydy o’n rhoi budd, ac yn bwysicaf oll yn dangos parch, i’r diwylliant lleol ydy eu bod nhw’n defnyddio’r iaith leol sydd yn cael ei siarad gan drwch y boblogaeth. A dydyn nhw ddim yn gwneud hynny, maen nhw’n wrthun i’r peth.
“Be’ ydyn ni eisiau ydy mwy o allu i fynd i’r afael efo’r busnesau yma sy’n datblygu a sicrhau bod twristiaeth nid yn unig yn gynaliadwy ond yn coleddu’r diwylliant lleol.
“Does yna ddim pwynt caniatáu datblygiadau os nad ydyn nhw; mae’n gwneud niwed mawr i’n hiaith ni, yn difrïo’n iaith ni ond mae rhywun yn gweld yr agwedd mae rhywun yn ei gael yn ôl – yn gwbl amharod i barchu’r diwylliant brodorol.”
‘Meddylfryd trefedigaethol’
Mae Hafan y Môr yn gorwedd ar ffin ward Richard Glyn Roberts, ac mae’n nodi bod Datganiad Effaith Ieithyddol a gafodd ei baratoi ar gyfer Haven Leisure Ltd yn 2019 yn dweud, “Gan ei bod hi’n debyg y bydd staff yn lleol mae hi’n debyg y byddan nhw’n siarad Cymraeg o ystyried y gyfran uchel o siaradwyr Cymraeg sy’n byw yn wardiau Llannor a Llanystumdwy.”
Yn ôl y cynghorydd, y peth lleiaf all rhywun ei ddisgwyl ydy bod yr arwyddion newydd sy’n cael eu codi yn cynnwys y Gymraeg.
“Mae’n awgrymu meddylfryd trefedigaethol yn y sector ymwelwyr pan nad ydy honno ym meddiant a dan reolaeth brodorion,” meddai wrth golwg360.
“Yr agwedd drefedigaethol yma tuag at grŵp ieithyddol tiriogaethol bregus iawn, hynny yw does yna ddim llawer o’r ardaloedd yma ar ôl.
“Mae unrhyw beth newydd, yn enwedig rhai sy’n weledol i bobol tu allan i’r gwersyll… mae peidio codi rheiny yn Gymraeg neu’n ddwyieithog yn awgrymu bod rhywun yn ddiystyrllyd o’r diwylliant brodorol a hynny yn gyson efo’r meddylfryd trefedigaethol.
“Mae hi ddigon posib bod eisiau trefn ychydig bach llymach a chryfach i fynd i’r afael â’r math yma o beth.
“Dydy’r peth ddim yn amhosib; Yr unig beth ydyn ni’n ofyn amdano ydy arwydd yn dweud yr un peth yn Gymraeg ag y mae’r Saesneg wrth ei ochr o, a rhyw bolisi callach o ran ymateb i ymholiadau.
“Mae yna lawer o sôn am dwristiaeth gynaliadwy gan sefydliadau cyhoeddus y dyddiau yma, fyswn i jyst yn gofyn ydy hon yn enghraifft dda o dwristiaeth gynaliadwy? Be sydd mewn golwg wrth sôn am dwristiaeth gynaliadwy?”