Mae arae solar sy’n cynhyrchu o leiaf chwarter y trydan sydd ei angen ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth wedi’i hagor yn swyddogol gan Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru.

Mae disgwyl i’r datblygiad trydan gwyrdd leihau allyriadau carbon y brifysgol gan dros 500 tunnell y flwyddyn, yn ogystal ag arbed dros £450,000 mewn costau ynni blynyddol.

Mae’r arae’n gorchuddio 3.8 hectar o dir y brifysgol ar Fferm Penglais, ac yn cynnwys tua 4,500 o baneli solar unigol.

Mae gwaith adeiladu ar y safle hefyd wedi cynnwys gwaith i annog mwy o fioamrywiaeth yn y gwrychoedd a’r basnau draenio cyfagos.

Cafodd y buddsoddiad gefnogaeth o £2.9m gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, a’i ariannu gan fenthyciad o £2.6m gan Lywodraeth Cymru drwy Salix Finance Ltd a’r brifysgol, gyda chymorth gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

‘Carreg milltir’ at y nod o fod yn ddi-garbon

“Rwyf wrth fy modd bod Prifysgol Aberystwyth wedi bwrw ymlaen gyda’r datblygiad solar hwn.” meddai Julie James.

“Mewn cyfnodau o brisiau trydan uchel, mi fydd yr adenillion ar y buddsoddiad hwn hyd yn oed yn fwy nag a ragwelwyd.

“Mae’r ffordd y mae’r cynllun wedi cyflawni ei amcanion yn dangos unwaith eto y gall buddsoddi mewn ynni glân arwain at arbedion ariannol a charbon, a hybu bioamrywiaeth.”

Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd Prifysgol Aberystwyth, eu bod nhw fel prifysgol “wedi ymrwymo i fynd i’r afael â heriau newid hinsawdd mewn cymaint o ffyrdd â phosibl”.

“Fe wnawn ni hynny nid yn unig drwy gyfrwng ein hymchwil a’n haddysgu ond hefyd drwy ein hamcanion strategol sefydliadol,” meddai.

“Mae’r arae solar hon yn garreg filltir allweddol arall tuag at nod y brifysgol o ddod yn ystâd ddi-garbon erbyn 2030/31 ac rydym yn ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o’r datblygiad pwysig hwn.”

Enghraifft ’wych’ o waith arloesol yng Nghymru

“Mae’n fraint gweithio ochr yn ochr â sefydliadau sector cyhoeddus, megis Prifysgol Aberystwyth, i’w helpu i gyrraedd eu targedau sero net ac rydym wrth ein bodd bod dau gam cyntaf ein gwaith gyda nhw wedi cael effaith mor gadarnhaol o ran lleihau eu hallyriadau a’u biliau ynni,” meddai Mark Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau gyda Vital Energi.

“Roedd yr arae solar yn fuddsoddiad sylweddol gan y Brifysgol i gyflawni prosiect arloesol ac rydym yn siŵr y bydd yn ysbrydoliaeth i sefydliadau eraill sydd am ddatgarboneiddio.”

Dywedodd Joan Dayap, Rheolwr Rhaglen, Tîm Cymru Salix Finance, eu bod nhw fel cwmni’n “falch o gefnogi Prifysgol Aberystwyth i ddatgarboneiddio ei hystâd gyda £2.6m o gyllid gan Raglen Gyllido Cymru, a ddarperir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru”.

“Bydd yr arae PV Solar yn cynhyrchu arbedion ariannol i’r Brifysgol o dros £450,000 ar brisiau ynni cyfredol a mwy na 500 tunnell o garbon yn flynyddol,” meddai.

“Mae’r brifysgol yn enghraifft wych o’r gwaith arloesol sy’n digwydd ar draws y sector addysg yng Nghymru, gan chwarae rhan hanfodol yn nhaith y genedl tuat at sero net.

“Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Prifysgol Aberystwyth wedi lleihau ei hallyriadau CO2 o dros 40 y cant ac yn 2019, gwnaeth y sefydliad ddatganiad ffurfiol argyfwng hinsawdd.”