Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi ategu’r galwadau ar i Gymru dderbyn cyllid trafnidiaeth gan HS2, yn dilyn y newyddion bod rhannau helaeth o’r rheilffordd am gael eu gohirio.
Bydd rhannau allweddol o’r llinell o Fanceinion i Crewe bellach yn cael eu gohirio er mwyn arbed arian.
Yn y gorffennol, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod rhyddhau’r £5bn amcangyfrifedig o gyllid ar gyfer trafnidiaeth y dylai Cymru fod â hawl iddo o dan fformiwla Barnett.
Mae hyn oherwydd bod y Ceidwadwyr yn honni bod y rheilffordd yn mynd drwy Crewe sy’n agos at ffin Cymru.
Fodd bynnag, mae’r Alban wedi derbyn cyllid canlyniadol.
‘Annerbyniol’
“Gyda’r oedi yma, mae’r Ceidwadwyr wedi rhedeg allan o esgusodion simsan i wrthod rhyddhau’r cyllid angenrheidiol yma i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wrth ymateb.
“Rydyn ni’n wynebu argyfwng hinsawdd ac argyfwng costau byw ac mae gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn allweddol i daclo’r ddau o’r rhain.
“Mae’n hollol annerbyniol bod y Ceidwadwyr yn parhau i wrthod rhoi’r buddsoddiad mae Cymru ei angen i wynebu’r sialensiau yma.
“Mae trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn crychu dan bwysau degawdau o danfuddsoddi, ac mae cysylltiadau trafnidiaeth wael yn atal buddsoddiad yn ein heconomi.
“Mae’n rhaid i’r Ceidwadwyr nawr cywiro eu record erchyll ar y mater hwn ar fyrder.”