Mae cynghorydd blaenllaw ym Môn yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi iawndal i fusnesau sydd wedi’u heffeithio gan gau Pont y Borth.
Daeth yr alwad gan y Cynghorydd Rhyddfrydol Aled Morris Jones, arweinydd yr wrthblaid ar Gyngor Sir Ynys Môn, yn ystod cyfarfod.
Galwodd hefyd ar i’r Cyngor gyflwyno’r achos i Lafur a Phlaid Cymru yn y Senedd fod perchnogion busnes wedi colli arian, gan roi eu busnesau yn y fantol, a’u bod nhw’n haeddu iawndal.
Ond penderfynodd cadeirydd y Cyngor ar sail cyngor nad oedd modd trafod y gwelliant.
“Mae nifer o bobol wedi colli busnes oherwydd y problemau hefo cau’r bont,” meddai’r Cynghorydd Aled Morris Jones.
“Mae angen iawndal arnyn nhw, ac maen nhw’n ei haeddu fo.
“Yn amlwg, roedd cau’r bont yn newyddion drwg iawn i’r bobol sydd ynghlwm yn uniongyrchol, ond yn newyddion drwg hefyd i’r holl economi leol.
“Cafodd tref Porthaethwy yn enwedig ei heffeithio’n andwyol, ac mae’n haeddu iawndal gan Lywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd.”
Parcio am ddim
Mae’r Cynghorydd Aled Morris Jones hefyd yn galw am barcio yn rhad ac am ddim i bobol ym Mhorthaethwy am flwyddyn, a hynny er mwyn adfywio’r arfer o siopa yn y dref.
“Mae hyn yn rywbeth go iawn y gall y Cyngor Sir ei wneud eu hunain, ac mae’n wir ddrwg gen i nad oedden ni’n medru trafod y gwelliant oedd yn dangos ein hymrwymiad i dref Porthaethwy,” meddai.