Fe fydd arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Caerffili yn sefyll yn enw Plaid Cymru ar gyfer sedd etholaeth Caerffili yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, sydd i fod i gael ei gynnal yn 2024.
Mae’r Cynghorydd Lindsay Whittle, sy’n cynrychioli Penyrheol, ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ers 46 o flynyddoedd.
“Dw i eisiau diolch i aelodau yn yr etholaetham ddangos eu hyder ynof fi unwaith eto,” meddai.
“Mae Llafur wedi cael eu cyfle yng Nghaerffili dros ddegawdau, a beth sydd wedi cael ei gyflawni?
“Mae angen newid ar ein hardal ni, a fi fyddai’r person hwnnw yn San Steffan.”
Mae Wayne David, Aelod Seneddol Llafur presennol Caerffili, eisoes wedi cadarnhau ei fod yn camu o’r neilltu yn yr etholiad nesaf, ar ôl bod yn cynrychioli’r etholaeth ers 2001.
Mae’r Cynghorydd Lindsay Whittle yn gyn-Aelod o’r Senedd, gan gynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru rhwng 2011 a 2016.
Fe oedd arweinydd y Cyngor rhwng 1999 a 2004, ac eto rhwng 2008 a 2011.
Bydd yn rhaid i bwyllgor gwaith y blaid ei gymeradwyo i gael ei ddewis.
‘Cefnogi nid colbio’
“Mae’r rhain yn adegau anodd i bobol gyda’r dreth tanwydd a chostau bwyd uwch, a nawr mae Cyngor Caerffili dan reolaeth Llafur wedi gwneud y sefyllfa’n waeth i nifer, gyda chynnydd o 7.9% yn nhreth y cyngor – y trydydd uchaf yng Nghymru,” meddai’r Cynghorydd Lindsay Whittle.
“Dyma adeg pan ddylai’r Cyngor fod yn cefnogi pobol, nid eu colbio nhw â chynnydd mawr yn eu biliau.
“Dw i’n gwybod cymaint mae pobol yn ei chael hi’n anodd oherwydd dw i’n gwirfoddoli mewn banc bwyd, ac rydym yn derbyn nifer cynyddol o geisiadau am gymorth mewn gwlad sydd i fod ymhlith y rhai cyfoethocaf yn y byd.
“Dydy San Steffan ddim yn helpu Cymru.
“Fel rhywun oedd ar y clwt am saith mis, dw i hefyd yn poeni’n fawr fod nifer o bobol yn methu cael swyddi sy’n talu’n dda. Mae angen i hynny newid.”
Yn gyn-reolwr tai yng Nghaerdydd, dywed y Cynghorydd Lindsay Whittle ei fod yn poeni am yr anhawster mae nifer o bobol, ac yn enwedig pobol ifanc, yn ei wynebu wrth ddringo’r ysgol eiddo.
“Dw i’n gwybod fod Cyngor Caerffili yn adeiladu nifer fach o gartrefi newydd mewn llefydd fel Trecenydd a Thretomas, ond mewn gwirionedd dydy hynny ddim ond yn crafu’r wyneb.”
Fe fu’r Cynghorydd Lindsay Whittle yn ymgyrchu yn erbyn datblygu tai newydd ar safleoedd tir gwyrdd ym Masn Caerffili, gan ddadlau y dylai’r datblygiad fod ar dir llwyd yn yr etholaeth.
Fe yw cadeirydd llywodraethwyr ei hen ysgol, Ysgol Gynradd Cwm Ifor, a chadeirydd Grŵp Treftadaeth Dyffryn Aber.