Bydd ysgolion a cholegau dros Gymru’n derbyn £60m er mwyn sicrhau bod adeiladau’n fwy effeithlon o ran ynni.
Pwrpas yr arian newydd fydd helpu ysgolion a cholegau i ddatgarboneiddio a gwella eu heffeithlonrwydd ynni drwy ailosod toeau, a gosod gwaith gwresogi ac awyru a systemau trydanol carbon isel.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y £60m yn hwb i ddiwydiant adeiladu Cymru ac yn cyfrannu at greu swyddi.
Amcangyfrifir bod y buddsoddiad yn cyfateb i £170m o werth economaidd i Gymru, ac 834 o swyddi cyfwerth â llawn amser.
‘Lleihau defnydd ynni’
Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Jeremy Miles bod adeiladu ysgolion yn “hwyluso’r broses o leihau defnydd ynni ac o ddatgarboneiddio yn unol â’n Strategaeth Sero Net”.
“Rydym am i’r adeiladau lle mae ein plant a’n pobol ifanc yn dysgu fod yn fannau croesawgar, ond ar ben hynny rydym am sicrhau hefyd nad yw’r adeiladau’n cael effaith ar yr amgylchedd, nac ar amgylchedd pobl ifanc Cymru yn y dyfodol,” meddai.
Cyngor Caerdydd fydd yn derbyn y swm uchaf o arian – dros £5m – tra bod bob awdurdod lleol oni bai am Ferthyr Tudful a Blaenau Gwent yn derbyn o leiaf £1m yr un. Bydd Blaenau Gwent a Merthyr Tudful yn derbyn tua £950,000 yr un.
Yn ddiweddar, ymwelodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles ag Ysgol Gynradd Perthcelyn yn Aberpennar.
Mae’r ysgol wedi cael ychydig dros £66,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i ariannu gwelliannau, gan gynnwys llawr gwrth-lithro sy’n arwain at ardal chwaraeon yn y cefn, a gosod canopi mewn ardal chwarae i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
‘Dim arian i gyllido cyflogau?’
Mae undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru wedi croesawu’r cyllid gan ddweud ei bod hi’n bwysig “ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd i gefnogi’r agenda ddatgarboneiddio”.
“Gwell fyth yw ei bod hi’n edrych fel bod yr arian hwn wedi cael ei ddyrannu’n benodol ar gyfer y pwrpas hwn, gan fod gennym ni bryderon hirhoedlog am lif yr arian sy’n dod gan Lywodraeth Cymru i ysgolion drwy’r Awdurdodau Lleol,” meddai Laura Doel, cyfarwyddwr NAHT Cymru.
“Fodd bynnag, rydyn ni’n pendroni, os gall arian gael ei ddyrannu at hyn, pam nad ydy’r un peth yn wir ar gyfer cyllido cyflogau athrawon ac arweinwyr ysgolion?
“Ar amser pan rydyn ni’n streicio dros dâl a chyllid, mae’n brifo braidd bod dwbl swm yr arian sydd wedi cael ei gynnig i ddod â’r anghydfod i ben yn gallu cael ei ddyrannu i sefyllfaoedd penodol.
“Fydd ein hysgolion ond yn gynaliadwy tra bo gennym ni’r arweinwyr a’r athrawon sydd eu hangen i’w rhedeg nhw.”