Fe fydd digwyddiad arbennig nos Wener, Ebrill 14 yn dathlu chwedlau cymunedau gwledig a’r diwydiant gwlân ym Meirionnydd.
Bydd yn cael ei gynnal yn yr Ysgwrn, sef cartre’r bardd Hedd Wyn, gyda chymysgedd o chwedlau a chaneuon am wlân o gymunedau gwledig yr ardal.
“Mae pob cymuned ym Meirionnydd ac yng Nghymru efo chwedlau penodol am eu hardal nhw,” medd y chwedlonwr a chanwr Mair Tomos Ifans, wrth siarad â golwg360 am y digwyddiad.
Pris tocynnau ar gyfer y digwyddiad yw £5, sy’n cynnwys paned.
Mae Mair Tomos Ifans yn teimlo bod chwedlau’n rhan bwysig o’n diwylliant, treftadaeth a hanes, ac yn meddwl eu bod yn rhan bwysig o gofio arwyddocâd ardaloedd hefyd.
Er nad yw pawb yn gwybod nac wedi clywed am rai o’n chwedlau, mae Mair Tomos Ifans yn gweld adrodd amdanyn nhw’n ddiddanwch pwysig.
Yn yr Ysgwrn, bydd adloniant Mair Tomos Ifans yn gwneud defnydd o chwedlau a chaneuon Meirionydd, gyda’r pwyslais ar wlân sy’n rhan o dreftadaeth yr ardal.
“Mi fydda i’n dweud straeon a chanu rhai o ganeuon gwerin Sir Feirionnydd,” meddai.
“Bydd yna elfen o gysylltu nhw efo’r arddangosfa wlân fydd yna.
“Bydda i’n dewis straeon sydd efallai yn sôn am fugeiliaid ac yn y blaen.
“Bydda i’n trio cysylltu fo efo gwlân.”
Chwedlau Meirionnydd
Er bod chwedlau enwog o Feirionnydd, dydy llawer ohonyn nhw ddim mor adnabyddus, ac felly mae’n bwysig cadw’r rhain yn fyw am sawl rheswm, yn ôl Mair Tomos Ifans.
“Mae chwedlau cyfoethog am y gymuned wledig ym Meirionnydd,” meddai.
“Mae bob un ardal, pob un plwy ym Meirionnydd, mae yna gymaint o chwedlau bychain.
“Rydym i gyd yn gwybod am y rhai enwog fel Cantre’r Gwaelod, Branwen ac Idris Gawr.
“Mae yna gymaint, gymaint mwy.
“Mae pob cymuned ym Meirionnydd ac yng Nghymru efo chwedlau penodol am eu hardal nhw.
“Efallai eu bod nhw’n debyg i chwedl sydd mewn plwy neu ardal gyfagos, ond dim ots os ydym ni’n gallu ei lleoli hi.
“Os ydi Taid wedi dweud wrtha chdi bod y garreg yn y cae yna yn fan’cw, bod yna dylwyth teg yn arfer dawnsio o’i chwmpas hi, os mae rhywun arall yn dweud eu bod nhw wedi darganfod sgerbwd yn y fan neu’r fan, mae’n rhan o’n magwraeth ni.
“Mae’n rhan o leoli ni.
“Mae o hefyd yn adloniant, mae rhaid i ni beidio anghofio hynny.
“Adloniant ydy o i fod.”
Chwedlau lleol
Gyda theithio’n haws heddiw, mae chwedlau’n ffyrdd o adnabod treftadaeth ein hardal a’r berthynas ag ardaloedd cyfagos, yn ôl Mair Tomos Ifans.
“Maen angen cofio pa mor bwysig ydy’r chwedlau yma, yn enwedig y rhai bach lleol,” meddai.
“Mae’r rheini yn dysgu lleoliad i ni.
“Rydym yn gallu edrych ar fap o’n hardal a gweld lle mae’r chwedlau yma a’r llefydd mae sôn amdanyn nhw.
“Mae’n cymdeithas ni a’n cymunedau ni heddiw mor symudol, mae pobol yn mynd ac yn dod llawer iawn.
“Rydym yn teithio o un ardal i llall heb feddwl.
“Rydyn ni mewn car ac efallai’n bod ni ddim yn ystyried perthynas ardal efo ardal ac yn y blaen, a sut oedd trefn pethau ers talwm, sut rydyn ni wedi cael enwau, sut mae pobol yn teithio o un lle i’r llall.”
Pwysigrwydd adrodd y chwedlau
Yn yr oes sydd ohoni, mae Mair Tomos Ifans yn pwysleisio y bydd plant yn gwybod mwy am chwedlau os ydyn nhw’n eu clywed nhw’n cael eu hadrodd.
Ond nid pobol ifanc yn unig ddylai glywed am y chwedlau, meddai, ond yn hytrach pobol o bob oed.
“Pan yn gofyn faint mae plant yn gwybod am ein chwedlau, mae’n dibynnu faint mae plant wedi eu clywed nhw neu beidio,” meddai.
“Heb iddynt eu clywed, dydyn nhw ddim yn mynd i’w gwybod, felly rwy’n gweld hynny fel rhywbeth pwysig iawn i bobol fel fi i ddweud y chwedlau yma.
“Mae’n bwysig hefyd fy mod i’n eu dweud nhw wrth eu rhieni nhw ac wrth eu Nain a’u Taid nhw.
“Hefyd, efo pobol ifanc, mae yna gymaint o bwysau arnyn nhw o’r byd eang.
“Maen nhw’n chwarae gemau cyfrifiadurol.
“Maen nhw’n gwylio ffilmiau ac efo bob math o ddylanwadau chwedlonol dros y byd i gyd.
“Does dim byd yn newydd bron yn y cyfresi teledu, ffilmiau nâ’r gemau cyfrifiadurol.
“Mae eu gwreiddiau nhw rywle yng nghanol mytholeg a chwedloniaeth y byd yma.
“Mewn ffordd, mae’n bwysig ein bod ni’n cofio bod ein chwedlau ni yn rhan o’r peth.”
‘Dydy’r chwedlau ddim yn perthyn i neb’
Does neb yn gwybod gwreiddiau chwedlau, ac felly mae nifer o bethau sy’n gallu cael eu gwneud allan ohonyn nhw er mwyn diddanu ac i’w cadw nhw’n fyw.
Yn ôl Mair Tomos Ifans, mae’n bwysig bod trigolion Meirionnydd a Chymru gyfan yn cyfrannu at hynny.
“Does neb biau chwedlau,” meddai.
“Hynny ydy, dydyn ni ddim yn gwybod pwy sydd wedi’u creu nhw yn y lle cyntaf.
“Maen nhw’n hawl i bawb.
“Maen nhw’n llenyddiaeth rydym yn gallu ei defnyddio a’i dweud yn ein harddull ein hunain, i ddehongli nhw fel rydyn ni eisiau, i wneud caneuon allan ohonyn nhw, i wneud lluniau ohonyn nhw.
“Ni piau nhw.
“Mae’n bwysig ein bod ni, fel pobol Cymru a phobol Meirionnydd, yn eu hawlio nhw a’n bod ni’n eu dweud nhw fel bo nhw ddim yn mynd o’n dwylo ni ac yn mynd yn anghofiedig.
“Ni sydd yma i’w cadw nhw’n fyw.
“Os na fyddan ni’n eu cadw nhw’n fyw, fyddan nhw ddim yn aros yn fyw.
“Ni biau nhw, ac mae eisiau i ni wneud y defnydd mwyaf ohonyn nhw.”
Negeseuon mewn chwedlau
Nid yn unig mae chwedlau yn adrodd stori, ond mae negeseuon pwysig eraill ynddyn nhw am ein gorffennol, ein presennol a’n dyfodol, a’n cynefin hefyd.
“Byswn i yn dadlau bod chwedlau yn rhan bwysig o’n diwylliant,” meddai Mair Tomos Ifans.
“I bobol eraill, bysa gynnon nhw ddim diddordeb, mwy na be’ sydd genna i mewn sut mae injan car yn gweithio.
“Hynny ydy, mae o’n ran bwysig o’n diwylliant oherwydd maen nhw’n cofio pobol sydd wedi bod o’n blaenau ni, mewn ffordd.
“Mae chwedl mewn un ystyr yn gallu bod yn stori fach i basio amser.
“O dan hynny weithiau, mae yna rybudd, mae yna olion o ryw hen hanes.
“Maen nhw yn bwysig oherwydd eu bod nhw’n esbonio rhai pethau am sut rydyn ni wedi dod yma.
“Y tylwydd teg er enghraifft, pam bod gynnon ni’r holl straeon tylwyth teg yma yng Nghymru?
“Maen nhw’n atgof o bobol oedd yma cyn i ni ddod yma, ac yn y blaen.
“Mae yna lawer iawn o ddehongli arnyn nhw.
“I fi, mae jysd yn hwyl i’w dweud nhw.
“Maen nhw’n adloniant, ond maen nhw hefyd yn gallu pasio amser ac maen nhw’n gallu’n dysgu ni am ein cynefin.”
Dydy pawb ddim yn gwirioni’r un fath
Er bod chwedlau yn bwysig i Mair Tomos Ifans, mae hi’n llawn werthfawrogi nad ydynn nhw at ddant pawb.
“Os nad ydan ni’n hoffi chwedlau, mae’n iawn,” meddai.
“Weithiau mae yna or-bwysleisio pwysigrwydd pethau.
“Maen nhw jysd yn rhan o’n diwylliant ni, ac mae’n bwysig ein bod ni’n rhannu’r diwylliant hynny.
“Mae’n bwysig bod pobol yn clywed cerddoriaeth sy’n rhan o’n diwylliant ni, gwybod am ein harlunio ni, gwybod am draddodiadau, hanes a ffordd o fyw ni.
“Mi ddylai fo fod yn rhan o fywyd pawb ond does dim rhaid i bawb wirioni efo nhw.”