Mae Prif Weithredwr cwmni Galeri yng Nghaernarfon wedi ymddeol ar ôl dros drideg mlynedd yn y swydd, ac mae’r cadeirydd yn dweud bod ei “lwyddiant i’w glodfori”.
Steffan Thomas, y cyn-gyfarwyddwr gweithrediadau, sydd wedi cymryd yr awenau, wedi i Gwyn Roberts dreulio’i ddiwrnod olaf yn y rôl yr wythnos ddiwethaf.
Cafodd menter gymunedol Galeri Caernarfon Cyf. ei sefydlu yn 1992 dan yr enw Cwmni Trefn Caernarfon, gyda’r prif fwriad o adfywio canol y dref.
Pan ddechreuodd y cwmni gyda Gwyn Roberts wrth y llyw, roedd sefyllfa’r dref yn ddyrys iawn, ynghanol dirwasgiad ac ychydig o fuddsoddiad yn cael ei wneud gyda sawl adeilad gwag wedi’u hesgeuluso.
Dros gyfnod o ddegawd, roedd y cwmni wedi prynu, adnewyddu a gosod dros ugain o adeiladau yn y dref, ac erbyn diwedd y 1990au roedd y cwmni wedi dechrau cynnal digwyddiadau celfyddydol o amgylch y dref.
Daeth yn amlwg fod gan y gymuned ddiddordeb mewn digwyddiadau celfyddydol, a dyna oedd y sbardun ar gyfer agor canolfan GALERI yn 2005.
‘Llwyddiant i’w glodfori’
Dywed Iestyn Harris, cadeirydd Galeri Caernarfon Cyf. fod dyled y bwrdd yn fawr i Gwyn Roberts am ei waith dros y tri degawd.
“Pan sefydlwyd y cwmni ’nôl yn 1992, pwy fyddai wedi dychmygu’r gwahaniaeth mae’r cwmni wedi ei wneud yn y dref, gan fod yn gatalydd i adfywio ac ail-danio economi’r dref?” meddai wrth golwg360.
“Mae llwyddiant a datblygiad y cwmni dros y tri deg mlynedd yn un sydd i’w glodfori, ac yn arwain ar hyn oll dros y blynyddoedd mae Gwyn.
“Dw i’n siŵr y byddai cymuned Caernarfon a’r dalgylch hefyd yn dymuno diolch i Gwyn am ei waith a’i ddyfalbarhad.
“Gall Gwyn edrych ’nôl dros ei gyfnod wrth y llyw hefo Cwmni Tref Caernarfon ac yna Galeri Caernarfon gyda balchder.
“Mae ei weledigaeth yn amlwg yng Nghaernarfon heddiw.”
Bydd Gwyn Roberts yn parhau i weithio i’r cwmni fel Cyfarwyddwr Datblygu.