Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Manon Steffan Ros, sydd wedi llwyddo i gyrraedd rhestr fer y categori Plant a Phobl Ifanc gyda Powell.
Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda
Mae Powell yn nofel am deulu sy’n falch iawn o’u hachau, gan fod un o’u cyn-deidiau wedi ymfudo i’r Unol Daleithiau ac wedi anfon arian adref i sefydlu ysgol, llyfrgell ac ysbyty. Dydy’r teulu ddim mor ariannog bellach, ond o leiaf fod ganddyn nhw eu henw – Powell. Ond mae taith i’r Unol Daleithiau yn datguddio hanes hyll iawn yn y goeden deulu, ac felly mae’n rhaid i’r Powells ddod i delerau â’u hanes eu hunain.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?
Mi wnes i gynnal arddangosfa o gelf, cerddoriaeth a llenyddiaeth yng Nghastell Penrhyn yn 2018, a dewis y thema o gysylltiadau lleol efo caethwasiaeth. Roedd ymateb pobol yn ddifyr iawn, ac ro’n i’n synnu gymaint o bobol oedd yn gwrthod cydnabod y cysylltiadau Cymreig efo caethwasiaeth. Mi ges i rywun yn gofyn i mi pam fy mod i’n gorfod bod mor negyddol am gaethwasiaeth. Dw i’n meddwl fod stori Powell wedi ei gwreiddio yn yr ymatebion yna.
Oes yna neges yn y llyfr?
Dw i’n gobeithio mai asgwrn cefn y llyfr ydi stori ddifyr a chymeriadau credadwy, ond yn sicr dw i’n meddwl fod cydnabod ein hanes yn rhan o neges y llyfr. Nid yn unig hynny, ond cydnabod ein pŵer ni rŵan i newid sefyllfaoedd sydd wedi bodoli ers amser hir.
Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?
Cwestiwn amhosib i’w ateb! Mae yna ormod! Llyfrau plant a phobol ifanc ydi’r dylanwadau mwyaf arna i, yn enwedig O Ddawns i Ddawns gan Gareth F. Williams am ei gymeriadau coeth, amherffaith, a Mochyn Gwydr gan Irma Chilton am feiddio bod mor onest ac amrwd.