Fel rhan o bartneriaeth arbennig eleni, fe fydd golwg360 yn noddi Tegid Phillips, y Cymro Cymraeg o Gaerdydd sy’n chwarae i dîm Siroedd Cenedlaethol Cymru y tymor hwn.
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Glantaf, mae’r troellwr a batiwr llaw dde wedi chwarae i Brifysgol Caerdydd (Cardiff UCCE), yn ogystal ag Academi ac ail dîm Morgannwg, ac i dîm y brifddinas hefyd. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Siroedd Cenedlaethol Cymru yn erbyn Cernyw yn 2019, ac mae’n nodi mai Scarborough yn Swydd Efrog yw’r cae gorau y chwaraeodd e arno hyd yn hyn.
Fel rhan o’n partneriaeth, bydd Tegid yn rhannu ei feddyliau gyda ni drwy gydol y tymor – yr uchafbwyntiau, yr iselfannau a mwy. Yma, mae’n edrych ymlaen at ddechrau’r tymor, ac yn ôl dros y paratoadau…
Mae’r cyffro at y tymor criced yn dechrau tyfu yn fwy ac yn fwy wrth i bob wythnos basio ar hyn o bryd. Gyda Morgannwg wedi dechrau’r Bencampwriaeth sirol ar Ebrill 6, a thîm Siroedd Cenedlaethol Cymru i fod i chwarae eu gêm gyntaf nhw ym Mhencampwriaeth T20 yr NCCA ar Ebrill 16, mae llawer i edrych ymlaen ato yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Yn amlwg, mae’r tywydd yn chwarae rhan fawr gyda chriced yng Nghymru, ac mae’n rhaid dweud nad yw’r tywydd wedi bod yn ffafriol yn yr wythnosau diwethaf [mae’r gêm yn erbyn Berkshire ddydd Sul, Ebrill 16 wedi’i chanslo].
Mae paratoadau cyn-tymor nifer o glybiau ar draws Cymru a hefyd tîm Siroedd Cenedlaethol Cymru wedi cael eu heffeithio lot wrth i glybiau ei ffeindio hi’n anodd i gael y caeau yn barod mewn pryd. Er hyn, wnawn ni obeithio am dywydd bach yn well dros yr wythnosau nesaf ac i ni allu gweld bach mwy o griced yn cael ei chwarae.
Bydd Uwch Gynghrair De Cymru yn dechrau ar Ebrill 29. Eleni, bydd y gynghrair yn croesawu Ynystawe, yn dilyn eu dyrchafiad nhw y llynedd. Dw i’n edrych ymlaen i chwarae yno achos dw i erioed wedi cael y cyfle i chwarae yno o’r blaen. Wna’i bob tro edrych ymlaen i allu chwarae mewn llefydd newydd, oherwydd mae’n cynnig sialens gwahanol ac amgylchedd anghyfarwydd. Bydda i’n chwarae eto flwyddyn yma i fy nghlwb cartref, Caerdydd. Hwn fydd y pumed tymor i fi chwarae yn Uwch Gynghrair De Cymru gyda Chaerdydd, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn.
Sut ydw i wedi bod yn paratoi?
I baratoi ar gyfer y tymor, dw i wedi bod yn ymarfer yn wythnosol gyda thîm Prifysgol Caerdydd (neu Cardiff UCCE). Mae’r rhaglen UCCE yn rhedeg trwy’r gaeaf felly dw i wedi bod yn ymarfer yn wythnosol ers mis Tachwedd, sydd bach yn gynnar yn fy marn i, ond dyna yw’r drefn weithiau. Yn anffodus, dw i wedi cael anaf i fy nhroed ac ar y foment yn methu ymarfer na chwarae, sydd yn rhwystredig mor agos i ddechrau’r tymor. Er hyn, mae’r rehab yn mynd yn bositif ar y foment, a dw i’n gobeithio fydda i’n gallu bod ’nôl ar y cae erbyn diwedd y mis. Yn ogystal ag ymarfer gyda thîm Cardiff UCCE, mae carfan Siroedd Cenedlaethol Cymru wedi bod yn ymarfer bob yn ail wythnos yn y ddau fis diwetha’.
Mae wedi bod yn neis gweld wynebau cyfarwydd, rhai o’r bois dw i heb eu gweld ers haf diwetha’, felly mae’n neis gallu’u gweld nhw eto ac ymarfer gyda nhw. Mae’r ymarferion wastad yn hwyl, ac hefyd o safon uchel. Gyda chymaint o dalent yn y garfan, dw i’n credu bod gennym ni lot o botensial i gael tymor llwydiannus eto y flwyddyn yma.