Mae nofio’n weithgaredd unigryw. Nid yn unig mae’n gamp Olympaidd, ond mae hefyd yn fath o ymarfer corff ac yn ymgais tuag at achub bywydau. Faint o weithgareddau corfforol eraill all honni’r fath beth?

Felly dydy hi ddim yn syndod fod nofio’n apelio gymaint yn y Deyrnas Unedig, lle mae yna ystod eang o bobol â diddordeb. Mae gennym ni bencampwyr Olympaidd, unigolyn yn ei 80au sydd â record byd, ton newydd o nofwyr dŵr oer, nofwyr cystadleuol a grwpiau rhieni a phlant sydd i gyd yn caru’r dŵr. I blant, mae nofio’n gamp ac yn weithgaredd hamdden hwyliog sy’n aml yn cael ei chysylltu â gwyliau haf crasboeth.

Dyna sy’n gwneud adroddiadau diweddar am gyflwr truenus nofio plant mor bryderus. Haf diwethaf, fe wnaeth adroddiad gan y BBC ganfod fod un ym mhob chwe awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig wedi gweld o leiaf un pwll nofio’n cau rhwng 2019 a 2022, naill ai’n barhaol neu dros dro. Mae Swim England, y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer nofio, wedi amcangyfrif fod oddeutu un ym mhob pedwar o blant yn gadael yr ysgol gynradd heb fod yn gallu nofio 25 metr. Mae disgwyl i’r nifer godi i gynifer â chwech ym mhob deg erbyn 2025.

Mae’r sefyllfa hyd yn oed yn fwy enbyd yng Nghymru. Fe wnaeth Fergus Feaney, Prif Weithredwr Nofio Cymru, ganolbwyntio’n ddiweddar ar ystadegau pryderus pan roddodd e dystiolaeth i Bwyllgor Llywodraeth Leol y Senedd fel rhan o’u hymchwiliad i wasanaethau hamdden cynghorau.

Yr hyn oedd o ddiddordeb arbennig oedd fod cost gwersi nofio bron â dyblu o £6.50 cyn Covid-19 i gyfartaledd presennol o £12.50. Datgelodd hefyd mai dim ond 50% o ysgolion cynradd Cymru sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni gwersi nofio. Gadawodd Feaney yr ymchwiliad â datganiad gofidus:

Bydd gennym ni sefyllfa’n fuan iawn, waeth i mi ddweud, lle bydd plant dosbarth canol gwyn yn gallu nofio, a’r gweddill yn methu.

Mae hyn yn codi cwestiynau am beth allai canlyniadau’r gostyngiad ym mynediad pobol ifanc at nofio fod. Ar y cyfan, mae yna berygl i fywyd os na all plant nofio, ond hefyd effaith ar iechyd corfforol, iechyd meddwl a sgiliau bywyd.

Boddi

Mae bron i 20% o boblogaidd Lloegr yn byw mewn ardaloedd arfordirol. Yn yr Alban, mae mwy na 40% o bobol yn byw ger yr arfordir, tra yng Nghymru, mae’n fwy na 60%.

Ynghyd â’r cynnydd yn y diddordeb mewn nofio dŵr agored mewn llynnoedd, afonydd a’r môr, mae’r ffactorau hyn gyda’i gilydd yn golygu bod yna bryderon diogelwch ynghylch y gostyngiad yn nifer y plant nad ydyn nhw’n alluog yn y dŵr.

Mae nifer o astudiaethau academaidd wedi tynnu sylw at y ffaith fod gwersi nofio yn gwarchod yn sylweddol rhag boddi. Er y gall hyn ymddangos yn reddfol, mae bywydau plant mewn mwy o berygl yn ein dyfroedd a thramor os yw’r tueddiadau tuag at ostyngiad mewn mynediad at wersi nofio’n parhau.

A person wearing red stands next to a yellow surfboard on a beach next to the edge of the sea. Two yellow and red flags fly on a pole next to them.
Mae bron i 20% o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn byw mewn ardaloedd arfordirol, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (Savo Ilic/Shutterstock)

 

Mae hi bellach yn hysbys fod gweithgarwch corfforol yn cael effaith bositif ar iechyd corfforol ac y gall warchod rhag salwch ac iechyd gwael. Gall cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ifanc gael effaith sylweddol nid yn unig ar iechyd corfforol plentyn ond hefyd eu hiechyd wrth iddyn nhw symud i lencyndod a dod yn oedolyn.

Mater pwysig gafodd ei godi gan Feaney o Nofio Cymru oedd y gostyngiad ym mynediad pobol ifanc mewn ardaloedd difreintiedig. Mae’r unigolion hyn eisoes yn wynebu risg uchel o ordewdra. Felly, nid yn unig mae dileu mynediad at wersi nofio yn tynnu gweithgaredd hwyliog i ffwrdd, ond hefyd ffactor o warchodaeth rhag gordewdra ifanc.

Mae nofio hefyd yn weithgaredd impact isel sy’n rhoi ychydig iawn o straen ar y cymalau a’r cyhyrau, sy’n ei wneud yn ffordd ddelfrydol o ymarfer corff i blant all fod yn wynebu anafiadau neu sydd ag ychydig iawn o symudedd. Ar yr un pryd, mae hefyd yn ymarfer y corff yn llawn sy’n defnyddio’r holl brif grwpiau cyhyrau ac yn annog datblygiad sgiliau symudedd sylfaenol.

Iechyd meddwl

Y tu hwnt i’r effaith nad oes modd ei gwadu ar iechyd corfforol, mae nofio’n cael effaith bositif ar iechyd meddwl a lles yn gyffredinol. Mae wedi’i ddangos bod nofio’n gwella symptomau iselder, yn lleihau gorbryder, ac yn gwarchod rhag salwch meddwl.

Mae Michael Phelps, y nofiwr gorau efallai, wedi siarad am yn hir am sut wnaeth nofio ei alluogi i ymdopi â’i ADHD.

A smiling man wearing a gold medal around his neck holds his right hand over his heart.
Enillodd y nofiwr Americanaidd Michael Phelps 23 o fedalau aur Olympaidd yn ystod ei yrfa (Salty View/Shutterstock)

Fodd bynnag, mae mwy i les meddyliol nag absenoldeb iechyd meddwl gwael. Gall nofio helpu i gynnal hunanhyder a chynyddu hyder. Mae hefyd yn hwyluso datblygiad meddylfryd twf, sef y gred y gallwch chi ddatblygu’ch sgiliau drwy weithio’n galed.

Mae gan nofio’n ifanc iawn mewn gwersi rhieni a babanod y potensial, hyd yn oed, i ddylanwadu ar ddatblygiad gwybyddol a symudedd ymhlith plant bach.

Mae cymryd rhan mewn nofio cystadleuol yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy i bobol ifanc o ran disgyblaeth, rheoli amser, ymgysylltu’n gymdeithasol, gwaith tîm a gwneud penderfyniadau. A ph’un a yw at bwrpas hamdden neu gystadleuaeth, mae gan nofio’r potensial i fod yn weithgaredd gydol oes, gan roi i ni rai o’r blociau adeiladu sydd eu hangen arnom i gynnal ffordd o fyw hapus ac iachus.

Mae cyrff llywodraethu nofio’r Deyrnas Unedig bellach wedi uno o dan ymgyrch sydd â’r nod o “achub ein pyllau”. Yn wir, dylid ystyried nofio’n hanfodol ar gyfer iechyd y genedl am flynyddoedd i ddod, ac felly mae angen ei warchod.The Conversation