Cawsom gadarnhad yn ddiweddar fod mwy nag erioed o bobol yn byw yng Nghaerdydd a bod mwy nag erioed o’r rheini’n gallu siarad Cymraeg.
Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd 42,750 o siaradwyr Cymraeg yn y brifddinas allan o gyfanswm o ychydig dros 350,000 o boblogaeth tair oed a throsodd.
Mae hyn yn gynnydd o 6,000 o gymharu â 2011, ac o bron i 11,000 o gymharu â 2001. Mae’r ganran o 12.2% hefyd yr uchaf erioed i gael ei chofnodi ers i ffigurau iaith gael eu cyhoeddi ar gyfer y ddinas am y tro cyntaf.
Gan fod y cynnydd sydd wedi digwydd yng Nghaerdydd dros yr ugain mlynedd ddiwethaf mor wahanol i’r sefyllfa yng ngweddill Cymru, un cwestiwn amlwg sy’n codi yw: I ba raddau y mae’r twf i’w briodoli i siaradwyr Cymraeg yn symud yno o rannau eraill o Gymru?
O’r hyn a welwn yn digwydd o’n cwmpas, gallwn fod yn sicr fod symudiad helaeth wedi bod o siaradwyr Cymraeg o siroedd y gogledd a’r gorllewin i Gaerdydd dros y ddau ddegawd diwethaf.
Mae’r wybodaeth am boblogaeth a iaith yn y Cyfrifiad – yng Nghaerdydd a’r siroedd gorllewinol – yn tueddu i gadarnhau tybiaeth o’r fath.
Yn anffodus, fodd bynnag, does dim tystiolaeth glir i allu mesur union raddau’r symudiad i Gaerdydd, nac i brofi’n ddiamheuol effaith hyn ar y niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg yno. Er bod ffigurau’r Cyfrifiad yn rhoi gwybodaeth inni am fannau geni’r boblogaeth, dydyn nhw ddim yn gwahaniaethu rhwng lleoedd o fewn Cymru.
Er hyn, gall bwrw golwg fras ar hanes y Gymraeg yn y brifddinas dros y ganrif ddiwethaf ein helpu i ffurfio darlun cliriach o’r sefyllfa.
Yr ugeinfed ganrif
Erbyn Cyfrifiad 1901, roedd poblogaeth Caerdydd wedi codi i ychydig dros 150,000. Er yn llai na hanner yr hyn yw heddiw, roedd bron i ddwywaith yr hyn oedd yn 1881 gwta ugain mlynedd ynghynt, ac yn cymharu â llai na 2,000 yn 1801.
Syndod ar lawer ystyr yw gweld nad oedd ond tua 8% o’r boblogaeth y ddinas – tua 12,000 – yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 1901. Roedd hyn ar adeg pan oedd tua 44% o boblogaeth Morgannwg yn gallu’r iaith, gyda chanrannau o 57% ym Merthyr, a 64% yn y Rhondda.
Yr unig leoedd ym Morgannwg a oedd â chyfrannau mor isel o’u poblogaeth yn gallu siarad Cymraeg oedd trefi llai Penarth a’r Barri gerllaw, ac Ystumllwynarth ar gyrion Abertawe. Hyd yn oed ymysg cenedlaethau hŷn hefyd, lleiafrif bach yng Nghaerdydd a allai siarad Cymraeg. Er hyn, o ystyried twf cyflym y ddinas yn y cyfnod hwn, tasg anodd iawn fyddai dyfalu faint o Gymraeg oedd yn cael ei siarad yno mewn cyfnodau cynharach.
O’r ffigurau sydd ar gael am fannau geni’r boblogaeth yn y cyfnod hwn, pobol wedi eu geni ym Morgannwg oedd yn cyfrif am bron i hanner poblogaeth Caerdydd yn 1881, 30% yn hanu o Loegr a 5% o Iwerddon. Erbyn 1911, roedd y ganran a aned ym Morgannwg wedi codi i bron i 60%, a’r ganran a aned yn Lloegr wedi gostwng i 25% – er bod eu niferoedd wedi dyblu mewn nifer. Yn wahanol i’r cymoedd glofaol, niferoedd bach iawn o boblogaeth Caerdydd oedd yn deillio o siroedd gorllewinol Cymru yn y cyfnod hwn.
Parhau i dyfu wnaeth poblogaeth Caerdydd drwy gydol yr ugeinfed ganrif gan ennill statws prifddinas Cymru yn 1955. Aros fwy neu lai yn eu hunfan a wnaeth niferoedd y siaradwyr Cymraeg dros y cyfnod hwnnw, fodd bynnag, gydag ychydig dros 14,000 o’r boblogaeth o tua chwarter miliwn yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiadau 1961 ac 1971. Er mai canran fach iawn o’r boblogaeth oedd yn gallu siarad Cymraeg, roedd yn ddigon cryf o ran nifer i gynnal cymdeithas gref, gyda rhwydwaith o gapeli, ac yn fwy diweddar, ysgolion Cymraeg.
Erbyn Cyfrifiad 1991, roedd y cyfanswm wedi codi’n raddol i 17,651 gan ffurfio 6.5% o boblogaeth ardal sy’n cyfateb â’r sir bresennol.
Cynnydd dramatig
Cyfrifiad 2001 oedd y cyntaf i ddangos naid mawr yn nifer a chanran siaradwyr Cymraeg y brifddinas.
Bryd hynny, roedd cyfanswm siaradwyr Cymraeg Caerdydd wedi cynyddu’n ddramatig i 31,947 a’r ganran wedi codi i 10.9% o’r boblogaeth. Roedd cynnydd ymysg plant yn ffactor pwysig yn hyn, wrth i nifer y plant 3-15 oed a oedd yn gallu siarad Cymraeg yng Nghaerdydd godi o 5,359 yn 1991 i 12,750 erbyn 2001 – cynnydd o dros 7,000. Yn yr un modd, cododd y ganran o 11.3% i 24.5%.
Roedd y cynnydd a fu ymhlith y plant a nodwyd fel rhai a oedd yn gallu siarad Cymraeg i’w weld yn amlwg drwy holl dde-ddwyrain Cymru yng Nghyfrifiad 2001 – yn wir roedd yn dipyn llai nag a welwyd yn rhan fwyaf o siroedd cyfagos.
Yr hyn oedd yn gwneud Caerdydd yn wahanol oedd y cynnydd ymlith pobol ifanc rhwng 16 a 34 oed a oedd yn gallu siarad Cymraeg, wrth i’w niferoedd godi o 5,526 yn 1991 i 10,232 erbyn 2001. Bu cynnydd bach ymysg grwpiau oedran hŷn yn ogystal.
Parhad pellach o’r tueddiadau
Yr hyn a welwn yng Nghyfrifiad 2021 yw parhad pellach o’r tueddiadau a welwyd yn y ddau gyfrifiad blaenorol.
Mae’r cynnydd o 6,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ychwanegu at gynnydd o 4,800 a ddigwyddodd rhwng 2001 a 2011.
Caerdydd yw’r unig sir yng Nghymru hefyd a welodd gynnydd yn nifer y plant 3-15 oed a gofnodwyd fel rhai sy’n gallu siarad Cymraeg, gyda’u niferoedd bron i 1,300 yn uwch, er bod y ganran i lawr y mymryn lleiaf i 26.2%.
Mewn gwirionedd, mae hyn yn dal yn is na’r hyn oedd yn llawer o siroedd eraill y de-ddwyrain yn 2001 a 2011. Mae’r gostyngiadau sylweddol a welwyd mewn siroedd fel Casnewydd, Torfaen a Blaenau Gwent erbyn 2021 yn awgrymu fod y ffigurau am Gaerdydd wedi bod yn fwy realistig, ac yn fwy cynaliadwy o’r herwydd.
Mae cymharu’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg mewn gwahanol wardiau yn rhoi cipolwg pellach inni o fywyd Cymraeg y ddinas. Ward Treganna, gyda 24% yn siarad Cymraeg, yw’r ward Gymreiciaf o ddigon, gyda 19.7% yn gallu’r iaith yn ward Pentyrch a Sain Ffagan, a 18.1% yn Llandaf. Mae’r canrannau isaf yn tueddu i fod yn y wardiau tlotaf fel Adamsdown, Tre-biwt, Caerau, Llanrymni a Phentwyn, sydd i gyd â llai na 10% yn medru’r iaith.
O graffu ymhellach, gwelwn fod pocedi mwy Cymraeg na’i gilydd o fewn wardiau Treganna a Llandaf hefyd, gyda chanrannau’n codi i dros 40% mewn ambell i le fel Victoria Park. Diddorol hefyd yw nodi ardal fach dros yr afon i Ysgol Glantaf lle mae 37% yn gallu’r iaith.
Eto i gyd, dylid nodi mai lleiafrif bach o siaradwyr Cymraeg Caerdydd sy’n byw mewn ardaloedd o’r fath o’r ddinas. Er mai yn ward Treganna mae’r cyfanswm uchaf o siaradwyr Cymraeg, mae’r 3,729 yn llai na 10% o holl siaradwyr Cymraeg Caerdydd.
Twf ymysg cenedlaethau hŷn
Er gwaethaf yr hyn a wyddom am bobol ifanc yn symud i Gaerdydd, nid ymysg y grwpiau oedran iau y gwelwyd y twf mwyaf yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021.
- Cynnydd o lai na 1,500 a welwyd ymysg pobl ifanc rhwng 16 a 34 oed – sy’n cymharu â chynnydd cyfatebol o tua 2,700 rhwng 2001 a 2011 a 4,700 rhwng 1991 a 2001.
- Eto i gyd, Caerdydd oedd yr unig sir yng Nghymru i ddangos cynnydd yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn y grŵp oedran 16-24 oed.
- Ar y llaw arall, syndod ar lawer ystyr yw gweld cynnydd o 600 yn unig yn y grŵp oedran oedolion ifanc 25-34 oed. Roedd cynnydd i’w weld yn y grwp hwn yn y mwyafrif llethol o siroedd Cymru.
- Mae’r cynnydd mwyaf sylweddol i’w weld ymysg grwpiau hŷn, gyda 1,374 yn fwy o bobl 35-49 oed, a 1,147 yn fwy o bobol 50-64 oed yn gallu siarad Cymraeg o gymharu â 2011.
- Cynyddodd y bobol dros 65 oed hefyd a allai siarad Cymraeg o 2,219 yn 2011 i 3,023 yn 2021.
- Mae’r twf mwyaf dramatig i’w weld yn ward Treganna, lle mae nifer y bobol sy’n gallu siarad Cymraeg wedi dyblu dros yr 20 mlynedd ddiwethaf. Roedd bron deirgwaith gymaint o bobol 35-49 oed yn gallu siarad Cymraeg yn 2021 o gymharu â 2001, a phedair gwaith cymaint o bobol 50-64 oed.
- Er hyn, ni ddylai’r cynnydd ymysg y grwpiau oedran hŷn beri inni neidio i’r casgliad mai pobol hŷn yn heidio i’r ddinas sy’n gyfrifol. Gall fod yr un mor debygol mai pobol a symudodd i Gaerdydd pan oeddent yn iau ac wedi aros yno yw llawer o’r rhain. Yn yr un modd, nid yw twf llai na’r disgwyl ymysg pobol iau yn golygu na allai cyfran sylweddol ohonynt hwythau hefyd fod wedi symud yno o rai o’r siroedd Cymreicaf.