Mae cyn-filwr elitaidd a chwaraewr rygbi proffesiynol yn cerdded o amgylch ffin Cymru er mwyn tynnu sylw at Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).

Fe fydd Andy Dawling, fu’n chwarae rygbi i Gaerloyw a’r Harlequins a rygbi saith bob ochr i’r Barbariaid a Lloegr, yn cerdded dros 1,000 o filltiroedd o amgylch y wlad gyda chriw o ffrindiau a chyd-gerddwyr.

Nod y daith, Pererindod y Wolf Pack, ydy cysylltu pobol a chymunedau, codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl, a dangos hyfrydwch tirwedd Cymru.

Dechreuodd y daith yng Nghastell Cas-gwent fore dydd Gwener (Ebrill 14), a byddan nhw’n dilyn Clawdd Offa a Llwybr Arfordir Cymru gan gael cwmni cyn-filwyr eraill a thimau chwaraeon ar y ffordd.

Mae’r daith wedi’i hysbrydoli gan broblemau Andy Dowling – sydd heb gysylltiad uniongyrchol â Chymru ond sydd â sawl ffrind yn byw yn y wlad – gyda PTSD, cyflwr iechyd meddwl sy’n effeithio ar sawl un, yn enwedig rhai sydd wedi bod yn y fyddin.

Gwrthod cydnabod

Gobaith Andy Dawling yw y bydd ei daith yn ysbrydoli eraill i ofyn am help, a dod i wybod am grwpiau cymorth.

“Fe wnes i ymuno â’r Fyddin yn 17 oed a threuliais dros ddau ddegawd yn Lluoedd Awyr Elitaidd y Deyrnas Unedig gyda 7fed Catrawd Parasiwt y Royal Horse Artillery,” meddai.

“Fues i ym Mosnia, Cosofo, Irac ac Affganistan.

“Roeddwn i’n byw bywyd deuol, yn yr ystyr fy mod i’n chwaraewr rygbi elît rhwng teithiau gyda’r Fyddin.

“Ddegawd wedyn, a dw i wedi dysgu bod y ffordd wnes i wrthod cydnabod digwyddiadau’r gorffennol wedi treiddio i’m seice a fy ymddygiad.

“Er fy mod i wedi torri lawr yn llwyr, roeddwn i dal yn gwadu fy mhroblemau iechyd meddwl, nes i fi gael diagnosis clinigol o PTSD.

“Dydy fy symptomau ddim yn annhebyg i eraill sy’n brwydro gyda’r un anhwylder – yn bennaf, dw i’n dioddef gyda meddyliau ymwthiol parhaus o ddigwyddiadau o’r gorffennol, niwl cynyddol yn y meddwl, meddyliau negyddol afresymol, a dw i’n or-wyliadwrus i fygythiadau sydd ddim yn bodoli.

“Mae’r symptomau hyn, ynghyd â theimlo nerfusrwydd a phryder annifyr pan dw i’n trio cysgu, wedi golygu fy mod i’n hunanynysu fwyfwy.”

Newidiadau cadarnhaol

Mae Andy Dawling wedi dechrau gwneud newidiadau cadarnhaol yn ei fywyd, ac mae’r dro o amgylch Cymru’n gam arall tuag at ei adferiad.

“Mae fy amharodrwydd i gyfaddef fy mod i’n dioddef a’r diffyg cydnabyddiaeth fy mod i angen help wedi cael effaith negyddol iawn ar fy llesiant, ynghyd ag ar y bobol dw i’n poeni amdanyn nhw fwyaf,” meddai.

“Fodd bynnag, fel milwr yn yr awyrlu, dw i wedi cael fy nhrwytho i ymateb yn ddisgybledig wrth ddatrys problemau.

“Yn sgil hynny, dw i’n cymryd cyfrifoldeb dros fy adferiad fy hun, gan ddefnyddio’r ymchwil ddiweddaraf i helpu fy adferiad a chefnogaeth fy nghymuned.

“Dw i’n benderfynol o gyflawni fy nod i ddistewi’r ellyllon, a helpu pwy bynnag fedra i ar hyd y ffordd.”

Bydd y Bererindod yn codi arian at sawl prosiect elusennol gan gynnwys Restart, elusen rygbi Gymraeg, a’r SAS Regimental Association.

Wrth egluro’r penderfyniad i gerdded o amgylch Cymru wrth golwg360, dywedodd Andy Dawling ei fod yn mynychu aduniad Lluoedd yr Awyr Prydain yn y Bannau Brycheiniog ganol fis Mai, a bod nifer o’i ffrindiau agos yn byw yng Nghymru neu ar y ffin.

“Dw i’n edrych ymlaen at gyfarfod pobol newydd a phrofi’r diwylliant a’r hanes cyfoethog fydd gan Gymru i’w gynnig i fi yn ystod y daith,” ychwanegodd.