Mae adroddiadau bod gan glybiau pêl-droed Arsenal a Spurs ddiddordeb yn Nathan Wood, amddiffynnwr canol Abertawe.

Creodd y chwaraewr ifanc gryn argraff yn ddiweddar wrth gynrychioli tîm dan 21 Lloegr am y tro cyntaf.

Yn ôl y gohebydd Fabrizio Romano, mae’r ddau glwb yng ngogledd Llundain “yn monitro’i berfformiadau’n agos”.

Ond mae Abertawe hefyd yn awyddus iddo lofnodi cytundeb newydd i’w gadw yn Stadiwm Swansea.com y tu hwnt i’r haf, pan fydd ei gytundeb presennol yn dod i ben.

Ymunodd e â’r Elyrch o Middlesbrough ar gytundeb dwy flynedd haf diwethaf, ac mae ganddyn nhw opsiwn i’w ymestyn am flwyddyn arall.

Ond mae’r rheolwr Russell Martin yn dweud ei fod e’n haeddu cytundeb hirdymor, fydd yn dod yn bwysicach os yw’r clybiau mawr yn dod amdano fe.

“Pan fo gennym ni chwaraewyr ifainc talentog ac addawol iawn, pan ydyn nhw’n chwarae’n dda, rhaid i chi eu gwobrwyo nhw neu rydych chi’n wynebu’r risg o’u colli nhw’n gynt nag y dylech chi,” meddai wrth y wasg heddiw (dydd Gwener, Ebrill 14).

“Rydych chi’n wynebu’r risg o beidio â chael cymaint o arian ag y dylech chi ei gael amdanyn nhw os ydyn nhw’n cael eu gwerthu.”