Oherwydd ei gyfeillgarwch mawr â’r diweddar Gareth Roberts o Fronwydd roedd y Gwyddel Craig Breen mor boblogaidd yng Nghymru, yn ôl y sylwebydd ralio Emyr Penlan.

Fe fu’n siarad â golwg360 yn dilyn y newyddion bod y gyrrwr 33 oed o Iwerddon wedi cael ei ladd mewn prawf ar gyfer Rali Croatia, gan ei ddisgrifio fel “y cymeriad mwyaf hoffus yn y parc gwasanaethu, ffrind i bawb, a cholled enfawr i’r gamp”.

Fis Mehefin 2012, roedd Breen a Gareth Roberts yn cystadlu pan aeth eu car oddi ar y ffordd ar ail ddiwrnod Rali Targa Florio, gyda’r gwrthdrawiad yn lladd y Cymro.

Enillodd y ddau dlws y WRC Academy yn 2011.

“Tro hyn, mae Craig wedi mynd off yr ochr arall, postyn wedi dod drwy’r ffenest, hollol freaky accident,” meddai Emyr Penlan wrth golwg360.

“Mae’r ddwy ddamwain yn mirror images o’i gilydd, y ddwy yn hollol freaky, a’r ddau yn hen ffrindiau mawr.

“Mae unarddeg mlynedd ers hynny.

“Dyna pam mae Craig Breen mor boblogaidd gyda’r Cymry, achos roedd e’n eistedd gyda ‘Jaffa’ mor hir, ac ar ôl ei farwolaeth roedd e draw am yr angladd.

“Roedd e yn Rali Cilwendeg, mae e wedi gwneud Rali Bro Caron…

“Roedd ‘Jaffa’ yn dysgu geiriau Cymraeg iddo fe hefyd, so mae lot o stwff gyda Craig ar gamera yn trio siarad Cymraeg, sy’n lyfli.”

Dywed ei fod yn “foi neis”, a bod “pawb yn meddwl bo nhw’n ffrind i Craig”.

“Roedd e y math o berson, fel Grav, unwaith ti’n cwrdd â fe unwaith, ti’n meddwl bod e’n ffrind i ti,” meddai.

“Dyna’r math o gymeriad oedd e – amser i bawb, un o’r werin bobol, un ohonon ni, amser i unrhyw un.”

‘Nawr oedd e’n dod i’r brig’

Fel gyrrwr, mae Emyr Penlan yn pwysleisio nad oedd e eto wedi cyrraedd brig ei botensial a’i fod e’n “dal yn gwella”.

“Beth sy’n drist yw mai nawr oedd e’n dod i’r brig, dal heb gyrraedd ei botensial, erioed wedi ennill rali ond wedi cael sawl podiwm,” meddai.

“Maen nhw’n dweud bod gyrwyr yn peakio pan maen nhw’n 35, wel 33 oedd Craig.

“Byddai e’n sicr wedi ennill ralis, ond yn anffodus geith e ddim cyfle nawr.

“Mae’n greulon bod e’n digwydd ar brawf cyn y rali, mae hwnna’n ei wneud e’n waeth rywffordd.

“Roedd e’n byw am y gamp.

“Mae lot o’r gyrwyr yn dda yn gyrru ac maen nhw’n gwneud e fel swydd, byddet ti’n dweud.

“Ond i Craig, ralio oedd popeth iddo fe, passion.”

Yn wir, dywed fod ralio yn ei waed erioed.

“Roedd ei dad e’n yrrwr rali, a chasgliad o geir gyda nhw gartre’, dechreuodd e ar y go-karts, dyna i gyd mae e wedi gwneud erioed yw gyrru.”

‘Ceir yn saffach nag erioed’

Er gwaetha’r digwyddiad arweiniodd at farwolaeth Craig Breen, mae Emyr Penlan yn pwysleisio bod y “ceir yn saffach nag maen nhw wedi bod erioed”.

“Y ddamwain olaf dw i’n cofio oedd Michael Park ym Margam,” meddai.

“Roedd e’n gyd-yrrwr gyda Marco Martin ar y pryd, yn y Peugeot.

“Aeth e off ym Mharc Margam, wedi mynd off mewn i goeden.

“Sa i’n credu bo ni wedi cael fatality mewn rali ers hynny.

“Mae’r ceir yn saffach nag maen nhw wedi bod erioed, ond ti jyst ffaelu gwneud unrhyw beth i stopio postyn ddod drwy’r ffenest, mae’n freaky.”

Beth nesaf?

Yn dilyn marwolaeth Craig Breen, dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd y rali yng Nghroatia yr wythnos nesaf yn mynd yn ei blaen.

“Yn sicr, does dim un o’r gyrwyr eisiau ennill y rali yna achos beth sydd wedi digwydd,” meddai Emyr Penlan.

“Ond dw i’n siwr fydd e’n digwydd, achos fel mae pethau nawr mae gormod o arian wedi’i fuddsoddi a darlledwyr dros y byd i gyd yn disgwyl cael rhaglenni i lanw’r amserlen.

“Mae rhaid bod rhyw fath o gyhoeddiad i ddod, achos mae’r gyrwyr i gyd yn mynd i fod yn hedfan ma’s yna dros y penwythnos i Groatia.”

Ond mae’r digwyddiad yn debygol o arwain at gwestiynau ym meddyliau’r gyrwyr eraill, meddai.

“Maen nhw i gyd yn mynd i fod yn gofyn y cwestiwn, ‘Gallai hwnna fod yn fi yn rhwydd’.

“Ti wedyn yn gofyn y cwestiwn, ‘ydw i wir eisiau gwneud hwn?’ Mae’n sicr yn gwneud iddyn nhw i gyd feddwl.

“Maen nhw i gyd yn cydnabod y peryglon, ond mae’n od achos dyw e ddim yn digwydd braidd byth.

“Mae e i gyd yn cael ei roi yng nghefn y meddwl, wedyn bob tro mae’n digwydd mae e i gyd yn dod i’r ffrynt eto.

“Ond mae e’n beryglus, dyna’r gwir, ond dyna pam ydyn ni’n ei garu fe, mae’r adrenalin yn anhygoel.”

Teyrngedau eraill

Ymhlith y rhai eraill sydd wedi talu teyrnged i Craig Breen mae’r Cymro Elfyn Evans a rhaglen Ralio ar S4C.

“Mae’r byd ralio wedi colli un o gymeriadau mwyaf hoffus y gamp, Craig Breen,” meddai’r rhaglen.

“Rydyn ni’n drist ac mewn sioc o glywed am farwolaeth drasig Craig Breen.

“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Craig.

“Cysga’n dawel.”

Yn ôl Elfyn Evans, mae hi “mor anodd coelio’r newyddion trist heddiw”.

“Roedd angerdd, brwdfrydedd a chariad Craig at y gamp heb ei ail, a bydd colled fawr ar ei ôl ymhlith nifer o bobol,” meddai.

“Meddyliau gyda theulu a ffrindiau Craig.”