Mae Clwb Pêl-droed Manchester United wedi dadorchuddio cofeb i Jimmy Murphy yn Old Trafford.
Cafodd y seremoni ei chynnal 65 mlynedd union ers i’r Cymro arwain y tîm yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn erbyn Bolton yn 1958, dri mis ar ôl trychineb awyr Munich.
Bu farw 23 o bobol, gan gynnwys wyth chwaraewr, yn y trychineb.
Doedd e ddim ar yr awyren ar y pryd, gan ei fod e’n hyfforddi Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.
Yn dilyn y trychineb, roedd Jimmy Murphy yng ngofal y tîm tra bod Syr Matt Busby yn gwella o’i anafiadau yn yr ysbyty.
Roedd dros 1,000 o bobol yn y seremoni i ddadorchuddio’r gofeb, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r teulu a’r clwb, ynghyd â’r cerflunydd Alan Heriot ac aelodau o dîm Manchester United yn 1968.
Daeth neges arbennig ar gyfer y seremoni gan Syr Alex Ferguson, cyn-reolwr y clwb.
Mae’r cerfluniau eraill yn Old Trafford yn cynnwys y rheiny i Busby, Ferguson, George Best, Bobby Charlton a Denis Law.
Cafodd cerdd ei hysgrifennu gan Tony Walsh ar gyfer yr achlysur, a honno’n dathlu cyfraniad Jimmy Murphy i’r clwb dros nifer o ddegawdau.