Fe fydd tîm criced Morgannwg yn llygadu buddugoliaeth gynta’r tymor wrth iddyn nhw deithio i Swydd Efrog yn Ail Adran y Bencampwriaeth ddydd Iau (Mai 4).
Does dim newid i’r garfan wynebodd Swydd Gaerlŷr yn Grace Road yn eu gêm ddiwethaf, wrth i Chris Cooke a Michael Neser adeiladu record o bartneriaeth o 211 i achub yr ornest, gyda Timm van der Gugten yn cipio pum wiced mewn batiad am yr eildro y tymor hwn.
Y tro diwethaf i Forgannwg herio Swydd Gaerlŷr, cipiodd Neser bum wiced mewn batiad am y tro cyntaf i’r sir Gymreig.
Mae Morgannwg yn bumed yn y tabl ar ôl tair gêm gyfartal yn olynol i ddechrau’r tymor, tra bod Swydd Efrog yn ail o’r gwaelod ar ôl colli un gêm a chael dwy gêm gyfartal, gydag un ohonyn nhw’n dod i ben yn gynnar oherwydd y tywydd.
‘Prawf gwych’
Yn ôl y prif hyfforddwr Matthew Maynard, bydd y gêm yn Headingley yn “brawf gwych” i Forgannwg, yn enwedig yn erbyn y batiwr Jonny Bairstow sy’n wyneb cyfarwydd yng Nghymru fel aelod o dîm y Tân Cymreig, tîm dinesig Caerdydd yn y Can Pelen.
“Roedd Swydd Gaerlŷr yn welliant ar y gêm yn erbyn Durham, a dyna oeddwn ni’n gobeithio amdano fo,” meddai.
“Roedd adfer yn y ffordd ddaru ni, a chreu rhagor o hanes i’r clwb yn wych.
“Dw i ddim yn meddwl bod ein hymosod bowlio yn bell o le mae angen iddo fo fod, ac mi fydd o’n brawf gwych i ni fel tîm i fyny yn Headingley, ac rydan ni’n edrych ymlaen at herio Jonny Bairstow.
“Mae Jonny yn chwaraewr o safon oedd wedi dioddef anaf erchyll, ac mae’n wych ei weld o’n ôl yn chwarae criced.
“Gobeithio y bydd o’n chwarae oherwydd dyna pwy mae chwaraewyr sirol yn ysu am fod yn debyg iddo fo, ond gobeithio y cawn ni fo allan yn rhad ddwywaith!”
Gemau’r gorffennol
Gorffennodd y gêm rhwng y ddwy sir yn Headingley yn gyfartal yn 2021, wrth i’r Saeson orfod ceisio cwrso 379 mewn 76 pelawd yn dilyn eira mawr ar y trydydd diwrnod.
Adeiladodd Billy Root a Chris Cooke bartneriaeth o 212 mewn 69.5 pelawd yn gynharach yn yr ornest, gyda’r ddau yn cyrraedd eu canred.
Oni bai am y tywydd, gallai Morgannwg fod wedi cipio’u buddugoliaeth gyntaf ar y cae yn Leeds ers 1999, pan oedd Matthew Maynard wedi sgorio 186 cyn i hyfforddwr presennol arall, Steve Watkin, gipio pedair wiced i orfodi’r Saeson i ganlyn ymlaen, ac Owen Parkin yn eu cosbi nhw yn yr ail fatiad er i Richard Blakey sgorio canred i Swydd Efrog.
Dim ond pymtheg canred mae batwyr Morgannwg wedi’u sgorio yn Headingley yn y Bencampwriaeth, a’r troellwr Don Shepherd sydd â’r ffigurau bowlio gorau erioed i Forgannwg yn erbyn Swydd Efrog, sef naw am 56 yn Scarborough yn 1966.
Carfan Swydd Efrog: J Bairstow, F Bean, D Bess, B Coad, M Edwards, M Fisher, G Hill, A Lyth, D Malan, M Revis, Saud Shakeel, J Tattersall, J Thompson, J Wharton
Carfan Morgannwg: K Carlson, B Root, J Harris, S Northeast, A Salter, M Neser, M Labuschagne, J McIlroy, C Cooke, T van der Gugten, D Lloyd (capten), D Douthwaite, E Byrom