Bydd gŵyl sy’n clymu pêl-droed a’r celfyddydau’n parhau dros yr haf, fel rhan o bartneriaeth rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Nod Gŵyl Cymru yw rhoi pêl-droed a chreadigrwydd wrth galon cymunedau, a sicrhau bod chwaraeon a’r celfyddydau yn dod yn llwyfan i arddangos “y gorau o Gymru”.

Bydd rhaglen o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal dros Gymru drwy gydol yr haf, gan gynnwys sesiynau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, y Sioe Fawr, Sesiwn Fawr a Tafwyl.

Bydd y ddwy agwedd yn cael eu dathlu drwy gyfres o gigs, barddoniaeth, sesiynau comedi, theatr a sgyrsiau gan gyfranwyr fel Dafydd Iwan; yr awdur Darren Chetty; y cerddor Ani Glass; perfformwyr o’r Welsh Ballroom Community; a Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru.

‘Amlygu’r dalent anhygoel’

“Bydd taith Gŵyl Cymru yn enghraifft wych o’r gwaddol sydd wedi’i greu gan daith hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA 2022,” meddai Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Rwy’n hynod falch fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn parhau gyda’r bartneriaeth werthfawr hon gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.

“Gyda’n gilydd byddwn yn defnyddio pŵer pêl-droed i amlygu’r dalent anhygoel sydd gennym ledled Cymru trwy ddigwyddiadau llai o fewn ein gwyliau cenedlaethol poblogaidd, sy’n arddangos ein gwlad a’n diwylliant ar eu gorau.”

Yn ystod Cwpan y Byd, cafodd dros 300 digwyddiad Gŵyl Cymru eu cynnal ar draws Cymru a’r byd.

Roedd digwyddiadau mewn mwy na 200 o leoliadau yng Nghymru, gyda thros 500 o artistiaid.

Roedd 40 digwyddiad rhyngwladol mewn lleoliadau fel Montreal, Efrog Newydd, Dubai a Munich hefyd.

‘Lledaenu cariad at gelfyddyd a phêl-droed’

“Rwy’n falch iawn bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn gallu parhau â’r bartneriaeth gyffrous hon gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru,” meddai Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Fel sefydliadau, rydym yn rhannu gwerthoedd cyffredin o gynnwys pawb a dathlu ein hieithoedd a’n cymunedau.

“Roedd y cyfle i gydweithio llynedd o dan faner Gŵyl Cymru yn fodd i ni gyflwyno cynulleidfaoedd newydd i gelfyddyd, diwylliant ac iaith Cymru.

“Mae gwneud y celfyddydau’n berthnasol i fywydau bob dydd pobl Cymru yn ganolog i’n cenhadaeth, a bydd ein partneriaeth â’r Gymdeithas Bêl-droed yn ein galluogi i ledaenu ein cariad at gelfyddydau a phêl-droed.”