Mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr Wrecsam ymuno â gorymdaith o amgylch y ddinas heno (nos Fawrth, Mai 2) i ddathlu dyrchafiadau’r timau pêl-droed.

Bydd Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn ymuno â’r orymdaith fws agored, ac mae’r sêr Hollywood wedi bod yn ymarfer eu Cymraeg mewn cyfweliad gydag S4C.

Roedd “Wrecsam am byth” a “diolch yn fawr am bopeth” ymysg y brawddegau gafodd eu dysgu iddyn nhw gan y gyflwynwraig Maxine Hughes, Cymraes sy’n byw yn yr Unol Daleithiau.

Wedi buddugoliaeth tîm dynion Wrecsam yn erbyn Boreham Wood ychydig dros wythnos yn ôl, mae’r tîm wedi cael dyrchafiad i’r Gynghrair Bêl-droed am y tro cyntaf ers pymtheg mlynedd.

Mae’r orymdaith yn gyfle i ddathlu buddugoliaeth tîm y merched yn erbyn Llansawel hefyd, a’u dyrchafiad i’r Genero Adran Premier y tymor nesaf.

‘Gorfoledd parhaus’

Mewn cyfweliad gydag S4C, dywedodd perchnogion y clwb, Rob McElhenney a Ryan Reynolds, mai’r nod ydy cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr.

“Dw i methu credu fy mod i mewn lle yn fy mywyd lle y gall unrhyw dîm chwaraeon, heb sôn am un dw i rywsut yn digwydd bod yn gyd-gadeirydd arno, gael effaith mor ddwys â hyn arna i,”  meddai Rob McElhenney.

“Dw i’n teimlo fel bod fy DNA wedi newid pan wnaethon ni fyw drwy’r gêm yna yn erbyn Boreham Wood, dw i ddim yn siŵr a fydda i byth yr un peth eto.

“Dw i’n byw mewn ryw stad o orfoledd parhaus, a dw i ddim eisiau dod yn ôl lawr!”

(Fideo: Maximum Effort ac S4C)

‘Diolch i gymuned Wrecsam’

Bydd yr orymdaith yn dechrau am 6:15 heno, gan ddechrau a gorffen ger y Cae Ras.

Cyn yr orymdaith, dywedodd Fleur Robinson, Prif Weithredwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, fod pawb ar y cae ac oddi arno wedi gwneud “ymdrech fawr” i gael y dyrchafiadau.

“Mae hwn yn gyfle gwych i ddiolch i gymuned Wrecsam am eu cefnogaeth anhygoel,” meddai.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu tymor gwirioneddol gofiadwy gyda’n gilydd.”