Fe wnaeth tîm criced Morgannwg dorri record 95 mlwydd oed ar eu ffordd i gêm gyfartal yng Nghaerlŷr ddoe (dydd Sul, Ebrill 30).

Adeiladodd Chris Cooke a Michael Neser bartneriaeth o 211 am yr wythfed wiced, gan dorri record sydd wedi sefyll ers 1928.

Roedd hynny’n ddigon i achub y gêm, gyda Rishi Patel yn sgorio 134 heb fod allan i’r Saeson a’r capten Lewis Hill 82 yn yr amser oedd yn weddill wrth i’w tîm gyrraedd 252-3 erbyn diwedd yr ornest.

Adeiladodd Morgannwg flaenoriaeth batiad cyntaf o 58 wrth gael eu bowlio allan am 465, gyda Cooke allan am 132.

Cipiodd Chris Wright bum wiced am 89 i’r Saeson.

Mae gan Forgannwg 31 pwynt ar ôl tair gêm gyfartal.

Swydd Gaerlŷr: Batiad cyntaf – 407; Ail fatiad 252-3.

Morgannwg: Batiad cyntaf – 465

‘Gwelliant’

“Roedd o’n welliant ar y gêm ddwytha’, a dyna oeddwn i’n gobeithio amdano fo,” meddai’r prif hyfforddwr Matthew Maynard.

“Roedd o’n wych sut ddaru ni adfer a chreu rhagor o hanes i’r clwb.”