Mae tîm Siroedd Cenedlaethol Cymru’n gobeithio dechrau eu hymgyrch NCCA T20 y penwythnos hwn, bythefnos ar ôl i’w gemau agoriadol yn erbyn Swydd Berkshire gael eu canslo oherwydd y tywydd.

Gyda gemau eraill yng Ngrŵp 4 wedi’u cynnal y penwythnos diwethaf, tîm Swydd Berkshire o dan gapteniaeth Tom Lambert sydd wedi agor bwlch ar frig y tabl eisoes, gyda buddugoliaethau cyfforddus dros Swydd Buckingham yn High Wycombe.

Swydd Buckingham sy’n teithio i Lys-faen ddydd Sul cyn i Gymru, sydd ag ambell wyneb newydd yn eu rhengoedd, deithio i Ampthill ar gyfer gêm yn erbyn Swydd Berkshire ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.

Y garfan

Mae digonedd o wynebau cyfarwydd yng ngharfan Cymru ar draws y ddau ddiwrnod oedd yn y tîm yn 2022 gollodd allan o drwch blewyn ar ddiwrnod ffeinals cyntaf, yn ogystal ag ambell wyneb newydd hefyd.

Mae chwaraewyr Morgannwg – Tom Bevan, Ben Morris a Prem Sisodiya – i gyd ar gael ar gyfer y gêm ddydd Sul, yn ogystal â’r chwaraewr amryddawn ffrwydrol Ben Kellaway, fydd yn chwarae ei gêm T20 gyntaf dros Gymru, ac yntau ond wedi chwarae dwy gêm i’r tîm dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r pedwar chwaraewr wedi bod yn rhengoedd y siroedd cenedlaethol dros y blynyddoedd diwethaf, a gyda mis yn unig cyn y T20 Blast, byddan nhw’n ceisio creu argraff ar Mark Alleyne, prif hyfforddwr pêl wen newydd Morgannwg.

Ymhlith y rhai sydd wedi gadael ers 2022 mae Steve Reingold, sydd wedi dychwelyd i chwarae criced i’w glwb yn Llundain; Lorenzo Machado, sydd ag anaf hirdymor i’w benglin, a’r chwaraewr-hyfforddwr Greg Smith.

Gyda Connor Brown allan ag anaf hirdymor a Tegid Phillips, sy’n cael ei noddi gan golwg360 y tymor hwn, yn dychwelyd yn raddol ar ôl anaf, fe fu’n aeaf prysur o ran recriwtio a datblygu wrth i Gymru geisio cystadlu ym mhob fformat yng nghriced y siroedd cenedlaethol, tra eu bod nhw hefyd yn helpu i ddatblygu’r to nesaf o chwaraewyr allai symud yn eu blaenau i griced dosbarth cyntaf.

Un sydd wedi’i gynnwys yw Will Smale, cyn-wicedwr Iwerddon dan 19, nad yw’n ddieithr yng Nghymru ac yntau wedi dod drwy’r rhengoedd oedran sirol.

Cafodd y chwaraewr 22 oed dymor llwyddiannus ar lefel yr ail dimau sirol y llynedd, gan ddangos ei ddoniau’n gynnar yn y tymor gyda 38 heb fod allan wrth i’r myfyrwyr guro Morgannwg ddechrau’r mis yma.

Mae disgwyl i Cameron Hemp – mab cyn-gapten Morgannwg David Hemp – chwarae yn ei gêm bêl wen gyntaf i’r tîm undydd ar ôl chwarae i’r tîm pêl goch yng ngêm ola’r tymor yn erbyn Cernyw, fel y mae’r bowliwr sêm llaw chwith Jack Harding hefyd.

Cafodd Harding, sy’n 18 oed, ei ryddhau gan Wlad yr Haf ar ddiwedd tymor 2022, ar ôl chwarae mewn llond dwrn o gemau yng Nghwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd.

Ond mae e wedi bod yn ymarfer gyda Morgannwg a Chymru dros y gaeaf er mwyn rhoi cyfle iddo fe ei hun gael sir newydd, ac fe fydd yn cynnig amrywiaeth ymhlith y bowlwyr sy’n cael eu harwain gan y chwaraewr profiadol Richard Edwards.

Mae Cymru hefyd yn croesawu Ruaidhri Smith yn ôl, ac yntau’n chwarae yn ei gêm gyntaf i’r tîm ers 2016, pan chwaraeodd e yn erbyn Dyfnaint ym Mhontarddulais.

Cafodd y chwaraewr amryddawn ei ryddhau gan Forgannwg ar ddiwedd y tymor diwethaf ar ôl naw mlynedd gyda’r sir lle cafodd e nifer sylweddol o anafiadau dros y blynyddoedd.

Mae’n awyddus, serch hynny, i barhau i chwarae dros Gymru, ac fe fydd yn cynnig cryn brofiad gyda’r bat a’r bêl.

Mae disgwyl hefyd i Saihaj Jaspal, cyn-fyfyriwr 22 oed Caerdydd, chwarae dros Gymru am y tro cyntaf, ac yntau’n chwarae i Rydaman yn Uwch Gynghrair De Cymru y tymor hwn hefyd.

Gyda phrofiad Brad Wadlan a’r capten Sam Pearce, ynghyd â Morgan Bevans, Sam Jardine a Harry Friend, mae digon i edrych ymlaen ato yn y garfan er nad ydyn nhw wedi gallu paratoi’n drylwyr yn yr awyr agored o ganlyniad i law mis Mawrth.

Bydd angen i Gymru fwrw iddi’n syth, gan wybod y bydd yn rhaid iddyn nhw ragori ar ganlyniadau’r timau eraill er mwyn cymhwyso o un o’r grwpiau mwyaf anodd.

Bydd Cymru’n mynd i Swydd Buckingham yn llawn hyder, ar ôl ennill y ddwy gêm rhyngddyn nhw y tymor diwethaf.

Bydd gan y Saeson y Cymro 32 oed, Jon Denning, yn eu rhengoedd, ac yntau wedi cynrychioli Cymru rhwng 2009 a 2015.

Ond fydd Saif Zaib o Swydd Northampton nac Alexei Kervezee o Swydd Gaerwrangon ddim ar gael oherwydd eu hymrwymiadau i’w siroedd.

‘Gêm gyffrous’

Mae Darren Thomas, prif hyfforddwr Siroedd Cenedlaethol Cymru, yn edrych ymlaen at gêm gyffrous ddydd Sul (Ebrill 30).

“Rydyn ni’n gwybod nad oes gemau hawdd mewn criced NCCA, nid lleiaf y T20,” meddai.

“Does dim ond angen i ni ganolbwyntio arnon ni ein hunain a’n cynlluniau ni, heb boeni’n ormodol am yr hyn nad oes modd i ni ei reoli.

“Mae gyda ni gymaint o allu yn ein carfan, mae’n fater o wneud y pethau sylfaenol yn y gêm yn dda, rhoi’r gwrthwynebwyr dan bwysau a chymryd ein cyfleoedd pan fyddan nhw’n dod.”

Y gemau

Bydd y gemau ddydd Sul yn dilyn y fformat traddodiadol, gyda dwy gêm ugain pelawd, y naill am 11yb a’r llall am 2.30yp.

Bydd modd i’r rhan fwyaf o dimau ffrydio’r gemau’n fyw ar y we, a bydd modd dilyn y sgôr a’r uchafbwyntiau ar dudalen Twitter @WalesNCounty.

Carfan Cymru v Swydd Buckingham:

S Pearce (capten, Lansdown), T Bevan (Morgannwg), C Hemp (Abertawe), B Wadlan (Abertawe), R Smith (Sain Ffagan), B Kellaway (Pen-y-bont a Morgannwg), W Smale (Taunton Deane), J Harding (Taunton St Andrews), R Edwards (Castell-nedd), P Sisodiya (Caerdydd a Morgannwg), B Morris (Pontarddulais a Morgannwg), S Jardine (Castell-nedd), T Phillips (Caerdydd).

Carfan Cymru v Swydd Bedford:

S Pearce (capten, Lansdown), C Hemp (Abertawe), H Friend (Casnewydd), R Smith (Sain Ffagan), M Bevans (Casnewydd), B Wadlan (Abertawe), W Smale (Taunton Deane), C Nicholls (Sain Ffagan), J Harding (Taunton St Andrews), R Edwards (Castell-nedd), S Jaspal (Rhydaman), S Jardine (Pontarddulais).