Mae adroddiadau bod trafodaethau ar y gweill ynghylch dyfodol cystadleuaeth griced ddinesig y Can Pelen.

Y gred yw fod Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yn ystyried troi’r gystadleuaeth yn un ugain pelawd arall, yn hytrach na chan pelen (sy’n cyfateb i 16.4 pelawd).

Mae criced ugain pelawd wedi hen ennill ei blwyf ar draws y byd, ond mae’r ECB yn poeni nad oes criced can pelen i’w gael yn unman arall yn y byd ac na fydd o help i dîm rhyngwladol Lloegr.

Yn y cyfamser, mae criced ugain pelawd yn mynd o nerth i nerth mewn sawl gwlad, gyda chwaraewyr yn ymrwymo i deithio’r byd i chwarae mewn amryw o gystadlaethau fel yr IPL yn India a’r CPL yn y Caribî am arian mawr.

Mae symiau mawr o arian wedi cael eu buddsoddi yn y twrnament, serch hynny, nid lleiaf gan ddarlledwyr fel Sky Sports fyddai’n colli arian mawr pe bai’r gystadleuaeth yn cael ei dileu neu ei haddasu.

Mae’r Can Pelen eisoes yn cyd-redeg â chystadleuaeth ugain pelawd sirol y T20 Vitality Blast, ac mae lle i gredu y gallen nhw gyflwyno cystadleuaeth ugain pelawd ddinesig ochr yn ochr â honno.

Mae gan Sky gytundeb i ddarlledu’r twrnament tan 2028, ac mae’n werth rhyw £220m.

Er gwaetha’r pryderon am ddyfodol y Can Pelen, does dim disgwyl iddi ddiflannu cyn 2025, a does dim disgwyl i’r sefyllfa effeithio gêm y merched, ond un opsiwn sydd dan ystyriaeth, yn ôl adroddiadau, yw gwahodd y Siroedd Cenedlaethol [y Siroedd Llai gynt] i gystadlu yn y gystadleuaeth ar ei newydd wedd.

Gallai hynny olygu, wrth gwrs, fod Siroedd Cenedlaethol Cymru’n cael lle yn y gystadleuaeth newydd, ochr yn ochr â siroedd dosbarth cyntaf fel Morgannwg, gyda dwy gynghrair, a thimau’n cael eu dyrchafu neu’n gostwng o’r naill i’r llall.

Mae lle i gredu y byddai unrhyw newid i’r fformat yn destun pleidlais ymhlith y deunaw sir broffesiynol.

Yn ariannol, mae nifer o safbwyntiau ynghylch pa mor llwyddiannus fu’r Can Pelen, gydag un adroddiad ariannol yn awgrymu colled o £9m er bod yr ECB yn mynnu eu bod nhw wedi gwneud elw o £11.8m.