Mae ymchwiliad ar y gweill i negeseuon hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn gêm bêl-droed Caerdydd yn Rotherham neithiwr (nos Iau, Ebrill 27).
Cipiodd yr Adar Gleision y fuddugoliaeth hwyr drwy gôl Cedric Kipre, a chafodd yntau a Sol Bamba, hyfforddwr Caerdydd, eu sarhau.
Mae Rotherham wedi beirniadu’r digwyddiad, gan ddweud eu bod nhw’n barod i gydweithio â Heddlu De Swydd Efrog.
Maen nhw’n dweud iddyn nhw gael gwybod am nifer o negeseuon ar ddiwedd y gêm, eu bod nhw’n ceisio adnabod yr unigolyn dan sylw, a’u bod nhw’n “condemnio” y digwyddiad ac yn gweithredu polisi o beidio goddef hiliaeth na gwahaniaethu o unrhyw fath.
Maen nhw’n dweud ymhellach nad yw gweithredoedd yr unigolyn yn eu cynrychioli nhw fel clwb.