Mae Joel Latibeaudiere, amddiffynnwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod e eisiau aros gyda’r clwb er nad yw e wedi llofnodi cytundeb newydd eto.

Bydd cytundeb presennol y chwaraewr 23 oed yn dod i ben yn yr haf, er ei fod e wedi cael cynnig cytundeb newydd yn gynharach y tymor hwn.

Fe fu’r trafodaethau rhwng y chwaraewr, ei asiant a’r rheolwr Russell Martin ar y gweill ers rhai misoedd, ac mae’r clwb wedi ymrwymo i gynnig telerau newydd iddo.

Ond mae Russell Martin yn dweud ei fod yn llai hyderus o gadw amddiffynnwr arall, Ryan Manning, sydd i’w weld wedi penderfynu gadael y clwb yn yr haf pan fydd ei gytundeb yntau’n dod i ben.

Dywed y rheolwr ei fod yn “rhwystredig” ynghylch sefyllfa Joel Latibeaudiere, ac y byddai wedi dod i gytundeb erbyn hyn pe bai’n llwyr gyfrifol am y trafodaethau.

Mae lle i gredu bod Latibeaudiere yn hapus â gofynion y tîm o asiantiaid sy’n ei gynrychioli, ac mae’n dweud ei fod e’n cadw draw o’r trafodaethau ac yn canolbwyntio ar chwarae pêl-droed ond yn hyderus y gall Russell Martin ddatrys ei sefyllfa.

Mae’r chwaraewr hefyd yn dweud y dylai Russell Martin a’i dîm hyfforddi gael cytundebau newydd yn dilyn eu llwyddiant y tymor hwn, gyda’r Elyrch yn dal â llygedyn o obaith o gyrraedd y gemau ail gyfle.

Byddan nhw’n teithio i Hull dros y penwythnos.