Mae amheuon fod Neco Williams wedi torri ei ên, ar ôl taro yn erbyn ei gyd-chwaraewr a chyd-Gymro Brennan Johnson neithiwr (nos Fercher, Ebrill 26).

Roedd Nottingham Forest yn chwarae yn erbyn Brighton, wrth iddyn nhw godi allan o safleoedd y gwymp gyda buddugoliaeth o 3-1.

Ond roedd cysgod dros y gêm ar ôl i Williams gael ei gludo oddi ar y cae ar wastad ei gefn ar ôl taro’i ben yn erbyn Johnson.

Rhuthrodd staff meddygol i’r cae ar unwaith i roi triniaeth hir iddo ar ôl 63 munud o’r gêm.

Ar ôl gadael y cae, daeth y newyddion ei fod e’n cael ei drin am gyfergyd.

“Fe wnes i edrych pan ddaeth e oddi ar y cae, ac fe welais i waed,” meddai Steve Cooper, rheolwr Nottingham Forest.

“Felly croesi bysedd nad yw’n rhy ddrwg.

“Ei iechyd sy’n dod gyntaf, waeth beth yw’r canlyniad.”