Mae tîm criced Morgannwg yn herio Swydd Gaerlŷr yn eu gêm gyntaf oddi cartref yn y Bencampwriaeth yr wythnos hon, wrth iddyn nhw ddychwelyd i gae Grace Road lle gwnaethon nhw greu hanes y tymor diwethaf.
Arweiniodd yr ornest y tymor diwethaf at un o’r buddugoliaethau mwyaf nodedig yn hanes y sir, wrth i Sam Northeast dorri record gyda’i 410 heb fod allan, wrth sgorio mwy mewn un batiad na’r un batiwr arall yn hanes y sir.
Roedd ei fatiad campus yn rhan o bartneriaeth allweddol o 491 gyda Chris Cooke, gyda’r ddau yn torri record arall.
Dylai’r gêm fod wedi gorffen yn gyfartal, mewn gwirionedd, wrth i’r tîm cartref gwrso nod o 211 mewn 65 o belawdau.
Ond bowliodd Morgannwg yn gywir, gyda wiced Michael Neser i waredu Chris Wright yn selio’r fuddugoliaeth fawr.
Y tro hwn, mae Morgannwg yn mynd yno’n bumed yn Ail Adran y Bencampwriaeth, yn dilyn gemau cyfartal yn eu dwy gêm gyntaf.
Mae Swydd Gaerlŷr yn drydydd ar ôl curo Swydd Efrog yn eu gêm agoriadol.
‘Atgofion hapus iawn’
“Mae gen i atgofion hapus iawn o’r llynedd,” meddai Sam Northeast.
“Chwaraeon ni’n dda a bydd hi’n dda cael mynd yn ôl.
“Yn amlwg, dw i ddim yn disgwyl ailadrodd y llynedd, ond dw i wedi cyffroi’n fawr.
“Roedd y pedwar diwrnod yn erbyn Durham yn destun siom, lle’r oeddwn i’n meddwl eu bod nhw wedi chwarae’n eithriadol o dda.
“Mae angen i ni fwrw iddi rywsut yn y Bencampwriaeth hon.
“Os gallwn ni deimlo’n bositif cyn y gêm i fyny yn Swydd Gaerlŷr, yna dw i’n meddwl y byddwn ni’n dal mewn sefyllfa dda.”
Gemau’r gorffennol a cherrig milltir
Bydd y capten David Lloyd yn chwarae yn ei ganfed gêm dosbarth cyntaf.
Bydd yntau’n gobeithio y bydd modd manteisio ar yr atgofion o’r gêm y llynedd, pan enillodd ei dîm o fatiad a 28 o rediadau ar ôl gorchestion Sam Northeast a Chris Cooke, gyda Morgannwg yn sgorio 795 am bump.
Wrth gwrso 211 mewn 65 pelawd, roedd y Saeson i gyd allan o fewn 58.4 pelawd, gyda’r troellwr Andrew Salter a’r bowliwr cyflym Michael Hogan yn achosi’r difrod cyn i Michael Neser gau pen y mwdwl ar y gêm.
Cyn hynny, collodd Morgannwg ornest ddramatig o dri rhediad yn 2018 yn dilyn chwip o fatiad gan Marchant de Lange, gyda’i dîm yn cwrso 250 ond yn llithro i 139 am wyth cyn i’r gŵr cryf o Dde Affrica daro’r bêl i bob cyfeiriad gyda chyfres o ergydion i’r ffin wrth wynebu 45 pelen.
Ildiodd y troellwr Callum Parkinson 21 rhediad oddi ar un belawd, gyda Varun Aaron a Gavin Griffiths hefyd yn dioddef dan law de Lange.
Yn 2016, collodd Morgannwg chwe wiced am ddeg rhediad o fewn 26 pelen wrth iddyn nhw golli’n annisgwyl.
Gorffennodd y gemau yn 2015 a 2017 yn gyfartal, gyda Jacques Rudolph a Will Bragg yn taro canred yr un yn yr olaf o’r gemau hynny.
Carfan Swydd Gaerlŷr: C Ackermann, Rehan Ahmed, E Barnes, S Budinger, W Davis, M Finan, P Handscomb, L Hill (capten), L Kimber, W Mulder, R Patel, T Scriven, C Wright
Carfan Morgannwg: K Carlson, B Root, J Harris, S Northeast, A Salter, M Neser, M Labuschagne, J McIlroy, C Cooke, T van der Gugten, D Lloyd (capten), D Douthwaite, E Byrom