Does neb o Gymru ar ôl ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd, ar ôl i Jak Jones golli o 13-10 yn erbyn Mark Allen o Ogledd Iwerddon yn rownd wyth ola’r gystadleuaeth.

Dyma’r tro cyntaf i Allen gyrraedd y rownd gyn-derfynol ers 2009.

Ond roedd y Cymro Jones wedi bod yn anelu i fod y chwaraewr cyntaf i gyrraedd rowndiau ‘un bwrdd’ y twrnament ar ei gynnig cyntaf ers Andy Hicks yn 1995, a’r chwaraewr cyntaf i ennill y twrnament ar y cynnig cyntaf ers y Cymro Terry Griffiths yn 1979.

Fe wnaeth y Cymro guro Ali Carter a Neil Robertson eleni ond doedd hi ddim am fod, er ei fod e wedi sgorio chwech rhediad o fwy na 50 ac un rhediad dros gant.

Cael a chael oedd hi ar ddiwedd pob sesiwn, yn gyfartal 4-4 ar ddiwedd y sesiwn gyntaf, ac 8-8 ar ddiwedd yr ail sesiwn.

Bydd Mark Allen yn wynebu’r Albanwr John Higgins neu’r Sais Mark Selby yn y rownd gyn-derfynol.

Mae Higgins a Selby wedi ennill Pencampwriaeth y Byd bedair gwaith yr un.

Dywedodd Jak Jones ei fod yn “siomedig” yn sgil ei berfformiad, a bod yr “achlysur” wedi cael y gorau arno.