Mae Clwb Pêl-droed Abertawe mewn dŵr poeth ar ôl i’w chwaraewyr a’u hyfforddwyr fod yn ymladd â chwaraewyr a hyfforddwyr Preston North End ar Ebrill 19.

Roedd ffrwgwd fawr tua diwedd y gêm yn Stadiwm Swansea.com, gyda Joe Allen a Ryan Lowe, rheolwr Preston, yn gweld cerdyn coch.

Mae Lowe a Colin Ashcroft, therapydd chwaraeon Preston, wedi’u cyhuddo o ymddygiad amhriodol a/neu dreisgar.

Mae’r ddau glwb wedi’u cyhuddo o fethu â rheoli eu chwaraewyr a’u staff, ac mae Russell Martin, rheolwr Abertawe, wedi amddiffyn Joe Allen yn dilyn y digwyddiad.

Mae gan y ddau glwb, Ryan Lowe a Colin Ashcroft tan Ebrill 27 i ymateb i’r cyhuddiadau.