Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi penodi Richard Davies yn rheolwr parhaol.

Daw hyn ar ôl iddo fod yn y swydd dros dro ers mis Chwefror.

Ymunodd â’r clwb chwe blynedd yn ôl, gan weithio fel is-reolwr i Iwan Williams ac yna Sean Eardley a Huw Griffiths.

Wrth ymgymryd â’r rôl dros dro, fe lwyddodd i gadw’r Cofis yn y Cymru Premier ac roedd y penderfyniad i’w benodi’n barhaol yn un hawdd, yn ôl y cadeirydd Paul Evans.

“Mae Richard wedi bod efo ni am amser hir, ac rydan ni i gyd wedi gweld pa mor dda mae o wedi datblygu dros y blynyddoedd,” meddai.

“Mae o’n uchel ei barch efo pawb yn y clwb fel hyfforddwr ac fel person, ac roedd penderfyniad y bwrdd i gynnig y swydd iddo fo’n un hawdd i’w wneud.

“Nid yn unig mae o’n adnabod holl chwaraewyr y tîm cynta’n dda iawn ac yn gwybod sut beth ydi’r gynghrair, ond mae o hefyd yn y sefyllfa unigryw o fod wedi gweithio’n helaeth efo’n tîm dan 19 gwych ni y tymor diwethaf.

“Fel clwb, mae’n bwysig i ni fod ein rhai ifainc yn yr Academi nid yn unig yn gweld llwybr i’r tîm cyntaf ond hefyd yn cael cyfle i ddod yn aelodau hanfodol o’r garfan.

“Mae hyn yn rywbeth mae Richard yn cytuno hefo ni yn ei gylch, ac rydym yn ei weld o’n berffaith ar gyfer y swydd.”