Mae Rygbi Caerdydd wedi cyhoeddi bod yr asgellwr Theo Cabango wedi llofnodi cytundeb newydd.
Mae’r Cymro Cymraeg 21 oed wedi creu argraff mewn cyfnod byr, gan sgorio chwe chais mewn 18 o gemau, a’r mwyaf cofiadwy ohonyn nhw oedd hwnnw yn y fuddugoliaeth dros y DHL Stormers, pencampwyr y BKT United Rugby.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Plasmawr ac Ysgol Glantaf yn y brifddinas, roedd e’n aelod o’r tîm dan 18 enillodd y Bencampwriaeth Oedrannau Rhanbarthol yn 2020, ac fe chwaraeodd e i’r tîm cyntaf flwyddyn yn ddiweddarach.
Cafodd ei alw i’r tîm cyntaf yn ystod cyfnod clo Covid-19 pan oedd y rhan fwyaf o’r garfan mewn cwarantîn, ac fe wnaeth e serennu yn erbyn Toulouse a’r Harlequins yng Nghwpan y Pencampwyr, gan sgorio cais arbennig yn erbyn y tîm o Lundain.
Mae’n frawd i bêl-droediwr Abertawe a Chymru, Ben Cabango,
‘Bwrw iddi yn 2023-24’
“Dw i’n hapus iawn i aros yng Nghaerdydd,” meddai.
“Dw i wedi dod drwy’r rhengoedd yma, dyma’r tîm ges i fy magu’n ei gefnogi a dw i wedi cyffroi am y blynyddoedd sydd i ddod.
“Ers chwarae fy ngêm gyntaf yng Nghwpan y Pencampwyr y tymor diwethaf, dw i wedi bod yn falch o’r cynnydd dw i wedi’i wneud ac er ei fod yn rhwystredig bod ar y cyrion ar hyn o bryd, dw i’n edrych ymlaen at fwrw iddi yn 2023-24.
“Mae llawer o chwaraewyr cyffrous, a dw i wedi chwarae gyda nifer ohonyn nhw yn y grwpiau oedran, sydd bellach yn gwneud cynnydd yn y tîm cyntaf, ac mae’n wych cael bod yn rhan o hynny.”