Ar ôl ennill Rali Croatia dros y penwythnos, fe wnaeth Elfyn Evans dalu teyrnged i Craig Breen.
Bu farw’r Gwyddel 33 oed yr wythnos ddiwethaf wrth gwblhau prawf ar gyfer Rali Croatia.
Aeth Evans a’i gyd-yrrwr ar y blaen yn y rali ddydd Sadwrn wrth i ras Thierry Neuville ddirwyn i ben yn gynnar, ac fe lwyddon nhw i ddal gafael ar eu mantais gan ennill yn y pen draw o 27 eiliad yn erbyn Ott Tänak.
Dyma’u buddugoliaeth gyntaf ers Rali’r Ffindir yn 2021.
“Rydyn ni wedi bod yn agos [at ennill] sawl gwaith rŵan,” meddai Elfyn Evnas.
“Ond dydyn ni ddim cweit wedi dod â’r cyfan at ei gilydd.
“Roedd hi’n bwysig cael hon ar y bwrdd a dw i’n amlwg wedi cael rhyddhad i raddau o ran hynny.”
Teyrnged
Ond doedd dim dathlu ar ôl y ras yn dilyn marwolaeth Craig Breen, wrth i’w gyd-yrwyr ei gofio a thalu teyrnged iddo.
“Mae’n anodd gwybod y peth iawn i’w ddweud,” meddai Elfyn Evans.
“Mae hi wedi bod yn wythnos anodd i bawb a dw i’n meddwl bod holl deulu’r WRC yn gallu bod yn browd o’r ffordd maen nhw wedi dod ynghyd i dalu teyrnged i Craig.
“Mae’n dangos ei gymeriad yn wych, a pha mor boblogaidd oedd o yn y parc gwasanaethu.
“Aethon ni i weld ei deulu yr wythnos ddiwethaf, a’u dymuniad nhw hefyd oedd ein bod ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n mwynhau ein hunain.
“Wnaethon ni addo iddyn nhw y bydden ni, ac yn amlwg roedden ni’n medru gwneud hynny.
“Ond, wrth gwrs, rŵan fod y cyfan drosodd, mae ein meddyliau’n troi’n ôl atyn nhw ar yr adeg anodd hon.”
Mae Elfyn Evans yn gydradd ar y brig ar gyfer y bencampwriaeth â Sébastien Ogier ar ôl pedair rownd allan o 13.
Fydd Ogier ddim yn cystadlu eto tan Rali Sardenia ym mis Mehefin, ond bydd Elfyn Evans yn ôl ar yr heol ar gyfer Rali Portiwgal fis nesaf.