Daeth cyn-chwaraewyr timau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd ynghyd ym Mhen-y-bont dros y penwythnos ar gyfer gêm i godi arian at glefyd niwronau motor.

Daw hyn ar ôl i Jason Bowen, cyn-chwaraewr 50 oed y ddau glwb, gael diagnosis o’r cyflwr yn ddiweddar.

Chwaraeodd e i dimau Birmingham, Reading a Chasnewydd yn ystod ei yrfa hefyd, gan ennill dau gap dros Gymru.

Mae tudalen codi arian wedi cael ei sefydlu i’w helpu wrth iddo ddechrau cael triniaeth at y cyflwr.

Diagnosis

Cafodd Jason Bowen ddiagnosis o glefyd niwronau motor fis Mawrth 2021, ar ôl teimlo gwendid a symudiadau digymell yn ei fraich.

Mae’r cyflwr yn golygu nad yw’r system nerfol yn gallu anfon negeseuon i’r niwronau motor sy’n allweddol ar gyfer symudedd.

Does dim gwellhad ar gyfer y cyflwr.

Dywed y teulu iddyn nhw “golli dagrau, mynegi dicter a theimlo’n hollol anobeithiol” pan gafodd e ddiagnosis, ond fod y profiad “wedi dangos i ni rym positifrwydd, cyfeillgarwch, cariad a chymuned wrth i ffrindiau, teulu a chydweithwyr gyd-dynnu i helpu”.

“Prif nod codi arian i ni yw darparu cefnogaeth ariannol i dalu costau meddygol parhaus Jason,” meddai’r teulu.

“Mae’r rhain yn cynnwys triniaethau cyfannol, ategolion, cymorth i fyw o ddydd i ddydd, hydrotherapi a ffisioleg niwro arbenigol yn y Morrello Clinic hyfryd yn Langstone.

“Bydd hyn hefyd yn ein galluogi ni i archwilio llwybrau newydd i helpu Jason a’i deulu.”

Ymhlith y chwaraewyr oedd wedi’u henwi yn y ddwy garfan i chwarae yn y gêm mae Angel Rangel, Nathan Dyer, Danny Gabbidon, Jason Fowler, Kevin Nugent, Andy Legg, Graham Kavanagh, Rob Earnshaw, Steve Jenkins, Christian Edwards, Lee Trundle, Andy Robinson, Jonathan Coates, Julian Alsop a Leon Britton.