Mae Matthew Maynard, prif hyfforddwr tîm criced Morgannwg, yn dweud iddyn nhw gael eu curo ym mhob agwedd ar y gêm yn erbyn Durham, er i’r ornest orffen yn gyfartal o ganlyniad i’r tywydd.

Achubodd Kiran Carlson y gêm i’r sir Gymreig gyda chanred, er i’w dîm orfod canlyn ymlaen er mwyn ceisio atal yr ymwelwyr rhag mynd adref â’r fuddugoliaeth.

Ar ôl i Carlson a Timm van der Gugten adeiladu partneriaeth sylweddol, daeth Morgannwg yn agos i’r sgôr oedd ei angen er mwyn peidio gorfod canlyn ymlaen, ond cawson nhw eu bowlio allan am 305.

Roedd Morgannwg unwaith eto’n ei chael hi’n anodd yn yr ail fatiad, wrth lithro i 106 am chwech cyn i law trwm eu hachub gyda 22 pelawd – a digon o amser i fowlwyr Durham – yn weddill.

Gyda bron i ddeuddydd o chwarae wedi’i golli, mae Morgannwg wedi cipio naw pwynt a Durham 13.

Methu osgoi canlyn ymlaen

Dechreuodd Morgannwg y diwrnod olaf ar ei hôl hi o 318 o rediadau, a 169 o rediadau yn brin o osgoi canlyn ymlaen.

Dim ond dau rediad oedd wedi’u hychwanegu pan gafodd Chris Cooke ei ddal gan y wicedwr Ollie Robinson oddi ar fowlio Ben Raine.

Adeiladodd Carlson a van der Gugten bartneriaeth o 110 wedyn, sy’n record am y nawfed wiced mewn gemau rhwng Morgannwg a Durham.

Mae Carlson bellach wedi taro canred yn ei ddwy gêm gyntaf y tymor hwn, yn dilyn ei lwyddiant yn y gêm agoriadol yn erbyn Swydd Gaerloyw.

Ond daeth ei fatiad i ben ar 119 pan gafodd ei ddal gan y troellwr Liam Trevaskis oddi ar ei fowlio’i hun, ac yntau’n bowlio o ganlyniad i anaf i’r troellwr arall yn y tîm, yr Awstraliad Matt Kuhnemann.

Pan ddaeth batiad Morgannwg i ben, roedd van der Gugten eisoes wedi cyrraedd ei hanner canred (54).

Ail fatiad wrth ganlyn ymlaen

Roedd Morgannwg ar ei hôl hi o 166 o rediadau wrth ganlyn ymlaen i’w hail fatiad, gyda 45 o belawdau i’w hwynebu er mwyn osgoi colli.

Cafodd Eddie Byrom ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Ben Raine, cyn i Paul Coughlin waredu Marnus Labuschagne a Sam Northeast i adael Morgannwg mewn trafferthion unwaith eto ar 40 am dair.

Collodd Kiran Carlson ei wiced ar saith pan gafodd ei ddal gan y slip coes Graham Clark.

Drannoeth buddugoliaeth fawr ei dîm pêl-droed, sgoriodd David Lloyd, y capten o Wrecsam, 31 cyn cael ei ddal ar y ffin wrth fachu pelen gan Coughlin, oedd wedi cipio’i bedwaredd wiced i adael Morgannwg yn 66 am bump.

Roedden nhw’n 96 am chwech pan gafodd Chris Cooke ei ddal gan y wicedwr Robinson oddi ar fowlio Raine.

Daeth y chwarae i ben yn fuan wedyn, a byddai’r ochenaid o ryddhad gan Forgannwg wedi bod yn fyddarol.

‘Angen chwarae’n well’

“Rydan ni wedi cael ein curo’n llwyr yn y dair agwedd dros y gêm,” meddai Matthew Maynard.

“Pob clod i Durham, maen nhw wedi dod oddi ar fuddugoliaeth yr wythnos ddiwethaf a dw i’n meddwl ein bod ni braidd yn rhydlyd neu beth bynnag.

“Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi cael gêm iawn yn erbyn Swydd Gaerloyw, a ddaru ni wneud rhai pethau da yn y gêm honno.

“Hwyrach nad oedd wythnos i ffwrdd wedi helpu efo hynny, rydach chi’n mynd yn ôl i sefyllfa’r rhwydi ac rydach chi’n colli pa mor siarp ydach chi ar gyfer gemau, hwyrach.

“Ond wnes i ddweud wrth yr hogia’ ein bod ni wedi cael dod i ffwrdd ag o.

“Rŵan fod honna wedi mynd, rhaid i ni edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Swydd Gaerlŷr a gweld beth fedrwn ni wneud yn y fan honno.

“Gawson ni ganlyniad anhygoel i fyny yn fan’no y llynedd, ac mae’n rhaid i ni fynd i fyny a chwarae criced gwell nag y gwnaethon ni yr wythnos hon.”