Mae cefnogwyr tîm pêl-droed ar ben eu digon ar ôl gweld eu tîm yn ennill dyrchafiad yn ôl i’r Gynghrair Bêl-droed, ar ôl pymtheg mlynedd yn chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol.
Gallai’n hawdd iawn fod wedi bod yn stori wahanol, wrth i Wrecsam fynd ar ei hôl hi ar ôl 43 eiliad, o ganlyniad i gamgymeriad amddiffynnol roddodd gyfle i Peter Ndlovu osod y bêl dros ben y golwr Ben Foster.
Doedd hi ddim yn hir cyn i dîm y Cae Ras unioni’r sgôr, serch hynny, wrth i Elliot Lee benio’r bêl i’r rhwyd oddi ar groesiad gan Ryan Barnett i lawr yr ochr dde.
Daeth Paul Mullin o fewn trwch blewyn i roi ei dîm ar y blaen gyda chic dros ei ben ar ôl 30 munud, gyda Wrecsam yn ceisio manteisio ar gyfran helaeth o’r meddiant.
Ond roedd Wrecsam ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner, wrth i Paul Mullin sgorio’r gyntaf o ddwy chwip o gôl ar ôl cael y bêl ar ymyl y cwrt cosbi a’i tharo hi â’i droed dde i gornel y rhwyd.
Ugain munud cyn y diwedd, rhwydodd Mullin unwaith eto – ond â’i droed chwith y tro hwn wrth danio’r bêl ar draws y gôl.
Anelu am ddyrchafiad arall
Yn ôl y canwr a chefnogwr selog Wrecsam, Geraint Lovgreen, fyddai e ddim yn synnu gweld Wrecsam yn ennill dyrchafiad arall yn fuan.
Mae’n canmol dylanwad y ddau seren Hollywood, y perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
“Maen nhw wedi gwneud gymaint, ddim jyst i’r clwb ond i’r dre’ ac o ran i Gymru, a dweud y gwir,” meddai Geraint Lovgreen wrth raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru.
“Mae pobol yn gwybod amdanon ni ac yn gwybod am yr iaith.
“Mae pobol yn dod o America i weld Wrecsam yn chwarae bob gêm, ac maen nhw i gyd yn gwybod am ein hanes ni a’n diwylliant ni, mwy nag y mae lot o bobol Wrecsam yn gwybod!
“Fyswn i’n synnu dim i’n gweld ni’n mynd fyny eto flwyddyn nesa’, ac wedyn rydan ni’n anelu am y Premier, on’d ydan?”
Awyrgylch i’w gofio
Yn ôl y sylwebydd Waynne Phillips, fu’n cyd-sylwebu â Dylan Griffiths ar Radio Cymru, roedd yr awyrgylch ar y Cae Ras “gystal ag ydw i wedi’i weld yma”.
“Ti ddim yn sylweddoli pan wyt ti allan ar y cae gymaint,” meddai am yr awyrgylch.
“Pan wyt ti’n chwarae, ond yn sicr yn y pymtheg mlynedd dwytha’, do’n i erioed wedi gweld rhywbeth tebyg achos roedd hi’n wych i fod yma.
“Roedd hi’n wych i fod efo Dylan [Griffiths] yn sylwebu ar y gêm ac mae o’n ddiwrnod a noson fydd yn byw efo fi am weddill fy mywyd achos beth sydd wedi mynd ymlaen ar ôl hynny.”
Dywed y cefnogwr blaenllaw Spencer Harris fod buddugoliaeth Wrecsam yn dda i’r ddinas ac i Gymru gyfan.
“Mae’n rywbeth anhygoel, nid yn unig i’r dref neu’r ddinas rŵan, neu gogledd Cymru ond i Gymru gyfan oherwydd bydd dyrchafiad Wrecsam yn rhoi tipyn bach mwy o bres i gael dod i mewn i gael chwaraewyr ifanc i fewn i’r system, a dros y tîm rhyngwladol hefyd,” meddai.
“Mae llawer o bethau gwych am Wrecsam yn cael dyrchafiad, ac i fi’n bersonol dw i mor hapus.
“Mae’n dal fel breuddwyd, i ddweud y gwir.”