Mae angen triphwynt ar dîm pêl-droed Wrecsam ddydd Sadwrn (Ebrill 22) er mwyn dychwelyd i’r Gynghrair Bêl-droed ar ôl pymtheg mlynedd yn y Gynghrair Genedlaethol.

Mae’r merched eisoes wedi ennill dyrchafiad, a thro’r dynion fydd hi yn erbyn Boreham Wood ar y Cae Ras.

Mae’r fuddugoliaeth o 3-0 dros Yeovil ganol yr wythnos yn golygu bod angen buddugoliaeth ar Wrecsam yn un o’u dwy gêm olaf i ennill y gynghrair.

Mae Wrecsam yn gobeithio y bydd tri o’u chwaraewyr – Jacob Mendy, Anthony Forde a Jordan Tunnicliffe – yn holliach ar gyfer y gêm fawr.

Bydd hon yn gryn her i Wrecsam, wrth i Boreham Wood geisio dyrchafiad drwy’r gemau ail gyfle hefyd – maen nhw wedi ildio llai o goliau nag unrhyw dîm arall yn y gynghrair y tymor hwn, a dim ond Wrecsam a Notts County sydd wedi colli llai o gemau na nhw.

Serch hynny, maen nhw wedi bod yn ddigon siomedig o flaen y gôl – dim ond Halifax, Maidenhead a’r tri thîm isaf sydd wedi sgorio llai o goliau na nhw.

Maen nhw wedi chwarae’n dda oddi cartref, serch hynny, gyda phedair buddugoliaeth a phedair gêm gyfartal mewn naw gêm yn 2023.

Mae Boreham Wood yn dechrau’r gêm yn y chweched safle, ac mae’n bosib y bydd dau bwynt arall yn sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle.

Gemau’r gorffennol

Gêm gyfartal 1-1 gafodd Wrecsam oddi cartref yn Boreham Wood ym mis Hydref.

Mae Wrecsam wedi ennill unarddeg allan o bymtheg o gemau yn erbyn eu gwrthwynebwyr heddiw.

Ymhlith y buddugoliaethau hynny mae honno o 4-2 y tymor diwethaf.