Mae adroddiadau bod Dai Young, Cyfarwyddwr Rygbi Caerdydd, wedi’i ddiarddel o’i waith ar noswyl Dydd y Farn yn Stadiwm Principality.

Mae lle i gredu bod chwaraewyr y rhanbarth wedi cael gwybod am y sefyllfa heddiw (dydd Gwener, Ebrill 21), ar ôl i staff wneud nifer o gwynion.

Mae Rygbi Caerdydd yn herio’r Gweilch yn Stadiwm Principality fory (dydd Sadwrn, Ebrill 22), gyda’r Scarlets yn herio’r Dreigiau yn y gêm ddarbi arall yn y brifddinas.

Ond fydd Dai Young ddim yn y stadiwm ar gyfer y gemau yn sgil yr honiadau yn ei erbyn.

Dyma’r bennod ddiweddaraf yn ystod tymor cythryblus i rygbi yng Nghymru, yn dilyn honiadau o rywiaeth a hiliaeth o fewn y gêm yng Nghymru, a’r penllanw oedd bygythiad chwaraewyr Cymru i streicio cyn y gêm fawr yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wrth i ffrae am gyflogau rygnu ymlaen.

Dydy Rygbi Caerdydd ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.