Mae tîm pêl-droed Aberystwyth yn wynebu gêm dyngedfennol gartref yn erbyn Caernarfon dros y penwythnos (dydd Sadwrn, Ebrill 22), wrth iddyn nhw frwydro i aros yn y Cymru Premier.

Ar ôl i’r Cofis guro’r Fflint o 3-2 ganol yr wythnos, mae Caernarfon yn ddiogel ac mae’r hyn sydd angen i Aberystwyth ei wneud bellach yn syml.

Rhaid i Aber ragori ar ganlyniad y Fflint yn erbyn Pontypridd er mwyn aros yn y gynghrair am dymor arall.

Gall Aberystwyth a’r Fflint orffen yn gyfartal â 38 pwynt Pontypridd, ond mae gan Bontypridd wahaniaeth goliau sylweddol sy’n golygu eu bod nhw bron iawn yn ddiogel hefyd.

Dim ond dwywaith mewn deg gêm mae Aber wedi colli, ac mae ganddyn nhw record dda pan ddaw i sgorio goliau hwyr, ac mae saith allan o’u deg buddugoliaeth wedi dod ar eu tomen eu hunain.

Mae Caernarfon wedi ennill dwy allan o’u tair gêm ddiwethaf, ac mae ganddyn nhw 39 o bwyntiau yn eu 31 gêm hyd yn hyn.