Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi cyhoeddi cadeirydd, llywydd ac aelodau bwrdd anweithredol newydd.

Daw hyn cyn Gemau’r Gymanwlad 2026 yn Victoria yn Awstralia.

Yn Birmingham 2022, fe wnaeth 201 o athletwyr gynrychioli Cymru ar draws pymtheg o gampau.

Y cadeirydd newydd yw Gareth Davies, Cyfarwyddwr Cwpan Rygbi’r Byd, ac mae’n olynu Helen Phillips, sydd wedi’i phenodi’n llywydd.

Ymhlith y rhai sy’n dod yn aelodau anweithredol mae Leah Wilkinson, y chwaraewraig hoci sydd wedi ennill mwy o gapiau nag unrhyw un arall dros Gymru mewn unrhyw gamp (183 o gapiau).

Mae hi wedi cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad bedair gwaith, a daeth ei gyrfa i ben yn gynharach eleni ar ôl cystadlu yn Birmingham y llynedd.

Bydd Tim Naylor a Zoe Davies yn ymuno fel Cyfarwyddwyr Anweithredol Annibynnol (NED) hefyd, gyda Fiona Reid, Iwan Morgan, a Rhys Williams yn ymuno fel Cyfarwyddwyr Anweithredol Annibynnol etholedig.

Mae Tim Naylor yn Fargyfreithiwr profiadol gyda phrofiad helaeth o lywodraethu chwaraeon, tra bod Zoe Davies yn Bennaeth Diogelwch, Sicrwydd a Gwydnwch yn y BBC yn Llundain, gyda phrofiad o ddatblygu systemau rheoli cynaliadwy a chyfeillgar i fusnes.

Bydd Rhys Williams, cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol a Rheolwr Datblygu Busnes presennol Undeb Rygbi Cymru, yn ymuno â’r Bwrdd fel Cyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol etholedig ochr yn ochr â Phrif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru, Fiona Reid, a’r Peiriannydd Siartredig Iwan Morgan, sy’n Rheolwr Gyfarwyddwr Rheoli Portffolio Ynni ac yn Gyfarwyddwr Ffermydd Gwynt Dogger.

‘Proses drylwyr iawn’

“Mae’r broses ar gyfer dewis aelodau newydd y Bwrdd wedi bod yn drylwyr iawn,” meddai Helen Phillips.

“Mae’r safon a’r diddordeb a ddangoswyd yn y swyddi wedi bod yn aruthrol, ac rwy’n hyderus, gyda phrofiad ac arweinyddiaeth Gareth, a’r setiau sgiliau amrywiol o amgylch y bwrdd, bod dyfodol CGW mewn dwylo diogel iawn.

“Rhaid manteisio ar y cyfle i ddiolch i Anne Ellis OBE, Jon Morgan OBE, yr Athro Nicola Phillips OBE a Craig Maxwell am eu cyfraniad sylweddol i Gemau’r Gymanwlad Cymru, a roddodd mor hael o’u hamser, eu gwybodaeth a’u hangerdd i’n sefydliad ac mae eu cyfraniadau wedi creu seiliau cadarn y gellir adeiladu arnynt ymhellach.”