Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn cyfaddef fod y clwb yn paratoi i golli’r ymosodwr Joel Piroe ar ddiwedd y tymor hwn.

Mae gan yr Iseldirwr 23 oed flwyddyn yn unig yn weddill o’i gytundeb presennol, ac mae e wedi sgorio 43 o goliau mewn 89 o gemau i’r Elyrch ers symud o PSV yn 2021.

Ymunodd e â’r clwb am £1m, ac fe gododd y ffi i £2m.

Cafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn yn 2021-22 ar ôl sgorio 24 gôl, ac mae e wedi sgorio 19 o goliau y tymor hwn, gan gynnwys pum gôl yn ei bum gêm ddiwethaf.

Cafodd e gynnig cytundeb newydd ddechrau’r tymor hwn, ond dydy e ddim wedi ei lofnodi eto, ac mae Russell Martin yn dweud bod sawl clwb wedi mynegi diddordeb yn y chwaraewr hyd yn hyn.

“Pe bai’n benderfyniad i fi, byddai [cytundeb Joel Piroe] wedi cael ei sortio amser maith yn ôl, ond dydy e ddim,” meddai wrth y wasg.

“Fe wnaethon ni gynnig cytundeb iddo fel sbel yn ôl, ond hawl pob chwaraewr yw peidio â’i lofnodi.

“Rydyn ni yn y sefyllfa honno nawr, ac mae’n rhaid i ni ymdopi â hynny.”

Ymhlith y rhai eraill sy’n debygol o adael y clwb ar ddiwedd y tymor, pan fydd eu cytundebau presennol yn dod i ben, mae’r cefnwr chwith Ryan Manning a’r amddiffynnwr Joel Latibeaudiere.

Mae cytundeb Russell Martin hefyd yn dod i ben ddiwedd y tymor nesaf.