Mae’r blaenasgellwr Josh Navidi wedi ymddeol o’r byd rygbi ar ôl methu â gwella o anaf i’w wddf.

Dydy’r chwaraewr 32 oed ddim wedi chwarae ers iddo fe gael ei anafu yn ystod trydydd prawf Cymru yn erbyn De Affrica yn 2022.

Chwaraeodd e 184 o weithiau i Gaerdydd, 33 o weithiau dros Gymru ac fe fu’n aelod o garfan y Llewod hefyd.

Enilodd e Gwpan Her Ewrop gyda Chaerdydd, tlws y Chwe Gwlad dair gwaith gyda Chymru gan gynnwys Camp Lawn, ac roedd e’n aelod o garfan Cymru gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd yn 2019.

Mae e hefyd wedi ennill nifer o dlysau blynyddol i’w glwb.

“Gyda thristwch mawr ond balchder eithriadol hefyd dw i’n cyhoeddi fy ymddeoliad o rygbi,” meddai.

Dywed Dai Young, Cyfarwyddwr Rygbi Caerdydd y gall Josh Navidi fod “yn hynod falch o’i yrfa a phopeth mae e wedi’i gyfrannu, boed hynny yn y crys du a glas neu’r crys coch”, gan ychwanegu y bu’n un o’r chwaraewyr rheng ôl gorau yn y byd ers nifer o flynyddoedd.

Mae’r clwb wedi dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.